Elidir Lydanwyn

brenin neu frenhines (450- )

Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd Elidir Lydanwyn (fl. 6g). Yn ôl traddodiad, roedd Elidir yn un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen ac yn dad i Lywarch Hen. Fe'i cysylltir â theyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu'n frenin ar y deyrnas honno am gyfnod.

Elidir Lydanwyn
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadMeirchion Gul Edit this on Wikidata
PriodSantes Gwawr Edit this on Wikidata
PlantLlywarch Hen Edit this on Wikidata

Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ceir llinach Llywarch Hen:

Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn mab Meirchion mab Gorwst Ledlwm mab Cenau mab Coel.

Mae disgynyddion eraill Coel Hen yn cynnwys Urien Rheged, Llywarch Hen, Clydno Eidyn, Pabo Post Prydain, Eliffer Gosgorddfawr a Gwenddolau. Roedd Elidir yn frawd i Gynfarch, tad Urien Rheged.

Yn ôl y testun De Situ Brecheiniauc, priododd Elidir â Gwawr ferch Brychan Brycheiniog, a chafwyd Llywarch Hen o'r briodas.

Yn ôl y traddodiad a geir yn nhestunau fersiwn Gwynedd o Gyfraith Hywel, yr oedd Elidyr Lydanwyn yn frenin Rheged ac yn briod â chwaer Rhun ap Maelgwn Gwynedd. Hawliodd Elidir orsedd teyrnas Gwynedd, ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr Arfon yn Aber Meweddus, ger Clynnog. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, Rhydderch Hael o Ystrad Clud a Clydno Eiddin. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r Hen Ogledd cyn belled ag Afon Forth.

Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn yn un o 'Dri Lleddf Unben Ynys Prydain', gyda Manawydan a Gwgon Gwron mab Peredur.

Ffynhonnell golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Gweler Triawd 8, Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 343.