Agor y brif ddewislen
Dyluniad o Gwenddolau allan o Frut y Brenhinedd (Llsgr. Peniarth 23C); Ll. G. C.

Brenin yn yr Hen Ogledd oedd Gwenddolau fab Ceidio (bu farw tua 573).

Hanes a thraddodiadGolygu

Yn ôl Bonedd Gwŷr y Gogledd, roedd Gwenddolau yn ddisgynnydd i Coel Hen. Yn y farddoniaeth sy'n ymwneud a Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin, cofnodir iddo gael ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Arfderydd gan Rhydderch Hael. Roedd Myrddin yn fardd llys i Wenddolau, ac aeth yn wallgof o ganlyniad i'r frwydr a mynd i Goed Celyddon i fyw.

Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y flwyddyn 573 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer Gosgorddfawr. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.

Roedd 'Gwyddbwyll Gwenddoleu' yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[1]

Yn agos i bentref Carwinley ar y ffin rhwng Lloegr a'r Alban mae hen ddinas. Hon yw Caer Wenddolau yn ôl pob tebyg.

CyfeiriadauGolygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III.

Gweler hefydGolygu