Santes Gwawr

santes Geltaidd

Santes o'r 6g oedd Gwawr, ac un o 24 o ferched y brenin Brychan o Geredigion a Prawst verch Tudwal, ei mam. Mae'n bosib y cyfeiriwyd ati gyda'r enwau canlynol, hefyd: "Goddeu", "Saint Gwrygon" a "Gwrugon".[1]

Santes Gwawr
Ganwyd4 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
MamPrawst Edit this on Wikidata
PriodElidir Lydanwyn Edit this on Wikidata
PlantLlywarch Hen Edit this on Wikidata

Dywedir iddi briodi Elidir Lydanwyn ap Meirchion (Elidir "gul" Lydanwyn Ap Meirchion), Brenin Rheged ac iddynt gael dau o blant: Helydd verch Elidir a Llywarch Hen ab Elidir, aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a bardd. Ceir cofnod iddi gael ei geni ym Manaw Gododdin (yn yr Alban erbyn hyn), ond mae'n fwy na theby mai symud yno a wnaeth.

Roedd ganddi nifer o chwiorydd, neu hanner-chwiorydd, gan gynnwys: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybïe, Tudful, a Tangwystl.

Eglwys

golygu

Cysegrwyd eglwys y plwyf, Llangywer, ger y Bala, Gwynedd, i'w chwaer Cywair. Ychydig iawn sy'n hysbys am Cywair a Gwawr, ond credir bod llun o cywair ohoni yn ymddangos yn ffenestr ddwyreiniol gwydr lliw yr eglwys. Yn ôl Cadw, fodd bynnag, yr hen enw ar yr eglwys oedd "Eglwys Santes Gwawr".[2][3]

 
Eglwys Santes Gwawr, Llangywer, ger y Bala

Ceir hefyd 'Nant Gwawr' ger Aberaman, ond ni wydys a oes cysylltiad â'r santes a cheir merch arall o tua'r un cyfnod (g. 435) o'r enw Gwawr ferch Ceredig sydd hefyd yn sant.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. www.library.wales; A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 gan Peter Clement Bartrum; adalwyd 14 Medi 2019.
  2. [https://web.archive.org/web/20150913104016/http://www.eryri-npa.gov.uk/cym/visiting/walking/Moderate-Leisure-Walks/llyn-tegid-southern-section Archifwyd 2015-09-13 yn y Peiriant Wayback gwefan Parc Cenedlaethol Eryri]; adalwyd Medi 2014
  3. gwefan waymarking.com; adalwyd 14 Medi 2019