Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)
Offeiriad a bardd o Gymru oedd Ellis Roberts, enw barddol Elis Wyn o Wyrfai (13 Chwefror 1827 - 23 Ebrill 1895),
Ellis Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Elis Wyn o Wyrfai |
Ganwyd | 13 Chwefror 1827 Llandwrog |
Bu farw | 23 Ebrill 1895 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Llwyn Gwalch, Llandwrog yn yr hen Sir Gaernarfon, yn fab i feilynydd, Morris Roberts ("Eos Llyfnwy"). Bu'n gweithio ym melin ei dad hyd nes oedd yn 23 oed, pan aeth i ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr, ac yna i goleg hyfforddi Caernarfon i hyfforddi fel athro. Bu'n cadw ysgolion yn Waunfawr a Llwynygell, Ffestiniog. Oredeiniwud ef yn ddiacon 1862, a daeth yn gurad Rhosymedre, yna daeth yn offeiriad yn 1863. Bu'n rheithor Llanfihangel Glyn Myfyr o 1866 hyd 1872, ac yn ficer Llangwm o 1872 hyd ei farwolaeth.
Gwaith llenyddol
golyguFel bardd, roedd yn un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, a adwaenid fel "Cywion Dafydd Ddu". Daeth yn un o feirdd a beirniaid eisteddfodol amlycaf ei genhedlaeth, gan ennill nifer o'r prif wobrau, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1880.
Llyfryddiaeth
golygu- Hanes y Cymry (1853)
- Awdl y Sabboth (c. 1856)
- Awdl Maes Bosworth (1858)
- Awdl Farwnad Ab Ithel (c. 1878)
- Buddugoliaeth y Groes (1880)
- Wreck of the London (1865)
- Massacre of the Monks of Bangor Iscoed (1876)
- Ordination Sermon (1893)