Llanfihangel Glyn Myfyr
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfihangel Glyn Myfyr.[1][2] Roedd yn hanesyddol yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Saif yng nghornel dde-ddwyreiniol eithaf y sir yn ardal wledig Uwch Aled, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gerrigydrudion ar yr hen lôn i Ruthun. Mae Afon Alwen, sydd â'i tharddle yn Llyn Alwen tua 4 millir i'r gogledd-orllewin, yn llifo heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Dyfrdwy. I'r de o'r pentref ceir bryn isel Mwdwl-eithin.
![]() Y bont ar Afon Alwen yn Llanfihangel Glyn Myfyr | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.031°N 3.506°W ![]() |
Cod SYG | W04000125 ![]() |
Cod OS | SH991492 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Ymwelodd William Wordsworth â’r pentref ym 1824 i aros gyda ffrind, Robert Jones, yn y persondy, ac ysgrifennodd y gerdd Vale of Meditation am y pentref.[3]
EnwogionGolygu
- Mae'n bosibl fod y bardd a brawd crefyddol Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g?) yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr.
- Yma y ganed yr hynafiaethydd Owen Jones (Owain Myfyr) (1741-1814), a gymerodd ei enw barddol o'r pentref.
Ffliw adarGolygu
Ar ddydd Iau, 24 Mai 2007, cadarnheuwyd gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yr achos cyntaf o ffliw adar yng Nghymru wedi ei ddarganfod ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Rhoddwyd cordon 1 cilomedr o gwmpas y fferm a gofynwyd i ffermwyr eraill fod yn wyliadwrus. Nid oedd y math mwyaf peryglus o ffliw adar, meddai'r llefarydd. Rhai wythnosau'n ddiweddarach datganwyd fod yr argyfwng drosodd.[4]
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Eglwys Sant MihangelGolygu
Eglwys fechan o’r 13g yw hon, a saif ar lan Afon Alwen, mewn ardal sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lenorion ers canrifoedd. Yma y symudwyd bedd Owain Myfyr ym 1951, yn ôl i fro ei febyd.
OrielGolygu
Bedd Owain Myfyr
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ "Gwefan hiraethog.org.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-21. Cyrchwyd 2018-12-09.
- ↑ Ffliw adar ar fferm yn y gogledd. BBC Cymru'r Byd. BBC (24 Mai, 2007). Adalwyd ar 3 Gorffennaf, 2007.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan