Elisabeth Tudur (1492–1495)
Ail ferch Harri Tudur ac Elisabeth o Efrog oedd y Dywysoges Elisabeth Tudur (neu Elizabeth Tudor) (2 Gorffennaf 1492 – 14 Medi 1495).[1]
Elisabeth Tudur | |
---|---|
Ganwyd | 2 Gorffennaf 1492 Palas Richmond |
Bu farw | 14 Medi 1495 Palas Eltham |
Galwedigaeth | pendefig |
Tad | Harri VII |
Mam | Elisabeth o Efrog |
Llinach | Tuduriaid |
Fe'i ganed ym Mhalas Sheen yn Surrey ac a adeiladwyd yn ddiweddarach gan ei thad a'i alw'n 'Blasdy Richmond', ger Richmond-Upon-Thames, Llundain. Byr oedd ei bywyd, a threuliodd y rhan fwyaf ohono gyda'i brawd Harri a goronwyd mewn blynyddoedd yn Harri VIII, brenin Lloegr, ym Mhalas Eltham, Caint. Addysgwyd y brawd hynaf, Arthur, ar ei ben ei hun yn eu cartref. Cynigiodd ei thad ei phriodi i'r Tywysog Francis a goronwyd ymhen blynyddoedd yn Ffransis I, brenin Ffrainc, ond ni ddigwyddodd hyn.
Marwolaeth
golyguBu farw ar 14 Medi 1495 wedi dioddef o edwiniad (atrophy) a hithau'n dair blwydd a dau fis. Claddwyd ei chorff ar ochr ogleddol bedd Edward y Cyffeswr yn Abaty Westminster ar ddydd Mercher y 27ain o Fedi. Gwariwyd £318 (£155,479.74 heddiw) ar ei chynhebrwng a chodwyd beddrod marmor iddi. Claddwyd dau arall ger ei hochor ychydig wedyn: Edmwnd (m. 1500 yn 15 mis) a Katherine (m. 1503 ychydig wedi ei geni).
Llinach
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ David Williamson (1986). Debrett's Kings and Queens of Britain (yn Saesneg). Webb & Bower. t. 103. ISBN 978-0-86350-101-2.