Elizabeth Everett
Roedd Elizabeth Everett (ganwyd Elizabeth Roberts) (8 Mai, 1797 – 12 Mawrth, 1878), yn ymgyrchydd dros achos dirwest, yn ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth ac yn ymgyrchydd dros y pwysigrwydd o roi addysg gyfartal i ferched.
Elizabeth Everett | |
---|---|
Ganwyd | Elizabeth Roberts 8 Mai 1797 Dinbych |
Bu farw | 12 Mawrth 1878 Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru - UDA |
Galwedigaeth | athro |
Priod | Robert Everett |
Hanes
golyguGanwyd Mrs Everett yn Ninbych yn ferch i Thomas ac Elizabeth Roberts, Rhos Fawr ym 1797. Roedd ei thad yn ddyn o safle pwysig a dylanwadol yn y sir, yn ddiacon parchus iawn gyda'r Annibynwyr yn y dref. Roedd Elizabeth yn un o naw o blant, roedd ei theulu yn amlwg ym mywyd crefyddol anghydffurfiol a bywyd cyhoeddus ei thref enedigol.
Yn wahanol i'r mwyafrif o ferched ei chyfnod cafodd addysg well na'r cyffredin gan fynychu ysgol a gadwyd gan y Parchedig Dr Arthur Jones DD., Bangor. Wedi darfod ei amser fel disgybl i Dr Jones, gwasanaethodd fel athrawes yn ei ysgol. Bu hefyd yn un o athrawesau benywaidd cynharaf yn Ysgolion Sul ei henwad yn y fro.
Yn 16 mlwydd oed, derbyniwyd hi fel cyflawn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Lon Swan, Dinbych, gan y Parch. Thomas Powell. Ym 1815 olynodd y Parch Robert Everett Thomas Powell fel gweinidog y capel. Priododd Elizabeth a'r gweinidog newydd ifanc ym 1816. Bu iddynt 6 merch a 5 mab.[1]
America
golyguYm 1823 ymfudodd y teulu i Unol Daleithiau America, pan gafodd Robert alwad i wasanaethu Eglwys Cymraeg Stuben, Talaith Efrog Newydd. Yn yr Unol Daleithiau daeth Robert yn enwog fel ymgyrchydd yn erbyn caethwasanaeth, o blaid dirwest, ac o blaid hawliau merched. Ei wraig oedd y "y dylanwad tu ôl i'w ymgyrch wrol". Roedd hi wedi derbyn addysg fenywaidd tu hwnt i'r cyffredin ac am i fenywod eraill cael yr un fraint a hi. Fel athrawes ysgol Sul i blant caeth daeth i ffieiddio caethwasanaeth. Wedi sgwrsio a dyn a aeth yn ôl i feddwdod, ar ôl tyngu llw dirwest, o dderbyn gwin alcoholig yn un o wasanaethau cymun ei gŵr, perswadiodd Robert i gefnogi'r achos dirwest.[2].
Roedd Elisabeth yn gyfrannwr i, a darllenydd proflenni, Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Bu hefyd yn weithgar gyda'r Dyngarwr, misolyn arall, dan olygyddiaeth ei phriod, a oedd yn erfyn a chanolbwyntio ar yr achos dirwestol, hawliau i ferched, heddychiaeth a'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.
Marwolaeth
golyguBu farw o niwmonia ym 1878, yn 80 mlwydd oed,[3] a chladdwyd ei weddillion yn yr un bedd a'i ddiweddar ŵr ym mynwent Stuben, Efrog Newydd.[2]
-
Robert gŵr Elizabeth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EVERETT, ROBERT (1791 - 1875), a'i frawd EVERETT, LEWIS (1799 - 1863); gweinidogion gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-15.
- ↑ 2.0 2.1 Cofiant y diweddar Barch. Robert Everett, a'i briod Steuben, Swydd Oneida, N. Y., yn nghyd a detholion o'i weithiau llenyddol cyhoeddedig gan ei deulu adalwyd 15 Ionawr 2020
- ↑ "MARWOLAETHMRSEVERETT - Y Drych". Mather Jones. 1878-03-14. Cyrchwyd 2020-01-15.