Ellis William Davies

cyfreithiwr a gwleidydd

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Ellis William Davies (12 Ebrill 187129 Ebrill 1939). Yn ddiweddarach bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod byr.

Ellis William Davies
Ganwyd12 Ebrill 1871 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Liverpool College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ganed ef yn Gerlan, Bethesda, yn fab i David Davies, swyddog yn y chwarel. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lerpwl, a bu'n gweithio fel clerc yn Wrecsam a Sheffield cyn dod yn gyfreithiwr yn 1899. Agorodd swyddfa cyfreithiwr yng Nghaernarfon lle bu'n byw am y gweddill o'i fywyd.

Daeth yn Aelod Seneddol yn 1906, pan ymddeolodd John Bryn Roberts, oedd yn dal sedd Eifion, ar ei benodiad yn farnwr. Etholwyd Davies yn ddiwrthwynebiad, a daliodd y sedd hyd 1918. Roedd yn feirniadol o lywodraeth Lloyd George yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, can ei hystyried yn rhy ryfelgar. Collodd etholiad 1918, ond dychwelodd i'r Senedd fel Aelod Seneddol tros etholaeth Dinbych ym 1923. Ymddiswyddodd oherwydd afiechyd ym 1929. Ymunodd a'r Blaid Lafur ym 1936, ond gadawodd y blaid ym 1939 oherwydd ei pholisi tramor. Cefnogai Davies bolisi Neville Chamberlain o geisio sicrhau heddwch trwy drafodaeth.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Bryn Roberts
Aelod Seneddol Eifion
19061918
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
John Cledwyn Davies
Aelod Seneddol Dinbych
19231929
Olynydd:
Syr Henry Morris-Jones