John Bryn Roberts
Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol o Gymru oedd John Bryn Roberts (8 Ionawr 1843 – 14 Ebrill 1931).
John Bryn Roberts | |
---|---|
John Bryn Roberts AS o Papur Pawb 1893 | |
Ganwyd | 8 Ionawr 1843 |
Bu farw | 14 Ebrill 1931 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar staf y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.
Addysgwyd ef gartref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921.
Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr.
Ystyrid ef yn elyniaethus i Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer.
Llyfryddiaeth
golygu- Jack Eaton Judge John Bryn Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Eifion 1885 – 1906 |
Olynydd: Ellis William Davies |