Eluned Morgan (Y Wladfa)
Roedd Eluned Morgan (20 Mawrth 1870 – 29 Rhagfyr 1938) yn un o lenorion amlycaf Y Wladfa ym Mhatagonia.
Eluned Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 1870 Bae Bizkaia |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1938 Patagonia |
Man preswyl | Dolgellau, Gaiman Department |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, llyfrgellydd |
Tad | Lewis Jones |
Bywgraffiad
golyguGaned hi ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay. Ei thad oedd Lewis Jones, ond bedyddiwyd hi â'r cyfenw "Morgan". Magwyd hi yn y Wladfa a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno. Teithiodd i Gymru yn 1885 a threuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Wedi dychwelyd i'r Wladfa, bu'n cadw ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd.
Yn 1885 danfonwyd hi gan ei thâd i dderbyn addysg uwchradd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn wahanol i'r Wladfa lle roedd addysg yn y Gymraeg, roedd addysg yng Nghymru yn gyfangwbl Saesneg a Seisnig. Bu'n rhaid i'w ffrind, Winnie Ellis, chwaer Aelod Seneddol Meirionnydd, T.E. Ellis, gyfieithu o'r Saesneg iddi yn yr ysgol. Cofiai Winnie hi yn 'cerdded fel tywysog' ac yn drawiadol gyda'i chroen a llygaid tywyll. Yn fuan wedi cychwyn yn yr ysgol fe arweiniodd Eluned orymdaith o'r disgyblion Cymraeg allan o'r adeilad mewn protest yn erbyn polisi ac agwedd Seisnig a gwrth-Gymraeg yr ysgol. Crewyd trafferth mawr a bu'n rhaid danfon am Michael D. Jones, cyfaith i dad Eluned, ddod i'r ysgol o'r Bala i ddatrys a chyfaddawdu.
Daeth yn olygydd y papur newydd Y Drafod yn 1893, ac wedi ymweliad arall â Chymru yn 1896, bu'n cyhoeddi ysgrifau yn Cymru O. M. Edwards. Sefydlodd ysgol ganolraddol Gymraeg yn y Gaiman, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar y Wladfa. Dychwelodd i'r Wladfa am y tro olaf yn 1918, lle bu farw yn 1938.
Llyfrau
golygu- Dringo'r Andes (1904, ail arg. 1907, 3ydd arg. 1917)
- Gwymon y Môr (1909)
- Ar Dir a Môr (1913)
- Plant yr Haul (1915, 3ydd arg. 1926)
- Gyfaill hoff...: detholiad o lythyrau Eluned Morgan gyda rhagymadrodd a nodiadau gan W. R. P. George (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972).
- Tyred Drosodd: Gohebiaeth Eluned Morgan a Nantlais gyda rhagymadrodd a nodiadau gan Dafydd Ifans (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1977).
Llyfryddiaeth
golygu- Dringo'r Andes & Gwymon y Môr (Honno). Argraffiad o'r ddau lyfr taith gyda rhagymadrodd.
- R. Bryn Williams Eluned Morgan: Bywgraffiad a Detholiad (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1948.
- E. Wyn James, ‘Plentyn y Môr: Eluned Morgan a’i Llyfrau Taith’, Taliesin, 148 (Gwanwyn 2013), 66-81. ISSN 0049-2884.
- E. Wyn James, ‘Eluned Morgan and the “Children of the Sun” ’, yn Los Galeses en la Patagonia VI, gol. Marcelo Gavirati & Fernando Coronato (Puerto Madryn, Chubut, Argentina: Asociación Punta Cuevas, Asociación Cultural Galesa de Puerto Madryn & Centro de Estudios Históricos y Sociales de Puerto Madryn, 2014), 249-65. ISBN 978-987-24577-5-4. Yn Saesneg a Sbaeneg.
- E. Wyn James, ‘Eluned Morgan a Diwygiad 1905’ https://www.youtube.com/watch?v=_y-Wgq3b06U Papur mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd, Gorffennaf 2015.
- Siôn T. Jobbins, 'The Phenomenon of Welshness II - is Wales too Poor to be Independent?[dolen farw]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2013) ISBN 9781845274658 Pennawd yn y llyfr o dan y teitl, 'Eluned Morgan, Patagonia'.