Ysgol Dr. Williams
Ysgol i ferched yn Nolgellau, Gwynedd oedd Ysgol Dr. Williams, a ddaeth yn ysgol breswyl yn ddiweddarach. Sefydlwyd ym 1875, a caewyd ym 1975.
Enghraifft o'r canlynol | former school building |
---|---|
Daeth i ben | 1975 |
Dechrau/Sefydlu | 1875 |
Rhanbarth | Gwynedd |
Hanes
golyguEnwyd yr ysgol ar ôl Dr. Daniel Williams, a fu farw ym 1716 gan adael eiddo gwerth tua £50,000 yng ngofal 23 ymddiriedolwr. Defnyddiwyd yr arian yn ôl ei gyfarwyddiadau i sefydlu prentisiaethau, llyfrgell ddiwinyddol yn Llundain a 7 ysgol gynradd, un yn Chelmsford, Essex ac eraill ar draws gogledd Cymru.[1]
Ond, wedi cyflwyniad Deddf Addysg 1870 gan William Ewart Gladstone, daeth ysgolion elfennol yn rhad ac am ddim i bawb.[2] Penderfynodd yr ymddiriedolwyr gau ysgolion Chelmsford, Llanbrynmair, Treffynnon, Dinbych, Pont Dolgadfan, Caergybi a Llanuwchllyn. Dim ond ysgol Wrecsam, man geni Dr. Williams, gadwodd ei chymhorthdal o £55 y flwyddyn; dyma’r unig sefydliad Cymreig a gafodd ei grybwyll yn benodol yn ei ewyllys. Defnyddiwyd yr arian yn hytrach i sefydlu ysgol anenwadol i ferched yng Ngogledd Cymru ac ar y dechrau, cynigwyd y waddol i Gaernarfon ar yr amod y byddai £1,000 yn cael eu codi’n lleol ac y byddai dwy acer o dir adeiladu da ar gael, ond ni lwyddwyd i gyrraedd yr amodau.[1]
Yn hytrach, gwnaethpwyd gais cryf dros Ddolgellau gan Samuel Holland, perchennog Chwarel Oakeley,[2] a casglwyd cyfraniadau o £1,400. Prynodd Holland ddwy acer o dir, chwarter milltir y tu allan i Ddolgellau, oddi wrth Mr. Vaughan, Nannau fel safle i’r ysgol. Derbynniodd y cynllun sêl bendith y Comisiwn Elusennau ar 19 Ionawr 1875, a cyfarfodd Corff Llywodraethol yr ysgol am y tro cyntaf ar 15 Medi 1875 gyda Samuel Holland A.S yn gadeirydd.[1]
Addysg
golyguRoedd y cwricwlwm yn darparu addysg ar gyfer merched rhwng saith ac unarbymtheg oed. Roedd y pynciau a ddysgwyd yn cynnwys Llenyddiaeth Saesneg, arlunio, canu, gwnïo, a gwyddor tŷ a oedd yn cynnwys coginio, rheolau iechyd, gwyddoniaeth ac iaith Ewropeaidd. Cysidrodd rhai fod y cwricwlwm yn 'rhy uchelgeisiol'.[1]
Y brifathrawes gyntaf oedd Miss Emily Armstrong L.L.A., a fynychodd Prifysgol St Andrews, penodwyd hi ym mis Medi 1877. Roedd dwy athrawes, dau athro rhan amser ac ychydig o fowrynion yn ychwanegol. Cyhoeddwys prosbectws, gan ddenu 11 disgybl preswyl a thua 20 merch ddyddiol, a ddechrauodd yn yr ysgol yn y tymor cyntaf ar 8 Chwefror 1878.[1]
Enillodd yr ysgol enw da fel arloeswr ym maes addysg uwchradd merched, a cynyddodd y niferau'n sylweddol.[1]
Adeilad
golyguCynlluniwyd yr ysgol gan Mr. Bull o Langollen a’r adeiladwyr oedd Richard ac Edward Jones o Arthog (cyfeiriad grid SH718181). Daeth y cerrig o Benrhyndeudraeth. Cafodd ei chodi a’i dodrefnu am £4,000 mewn pryd ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 5 Chwefror 1878.[1]
Nid oedd ysgol eilradd i ferched yn Nolgellau, dim ond i fechgyn, arferai'r cyngor sir dalu i'r merched oedd wedi pasio'r arholiad '11 plus' i fynd i Ysgol Dr. Williams. Ond ym 1962, daeth Ysgol y Gader yn ysgol i ferched a bechgyn, dechreuodd Ysgol Dr. Williams golli tua ugain o ddisgyblion y flwyddyn. Trodd yr ysgol yn hollol breifat ym 1968, gan golli ariannu gan y llywodraeth. Bu'n rhaid cau'r ysgol yn 1975.[2]
Wedi iddi gau, symudodd Coleg Meirionnydd o'i safle gwreiddiol yn y Llwyn ar Ffordd Bala, i hen adeilad yr ysgol.[3]
Cyn-ddisgyblion o nod
golygu- Marion Eames, awdures[4]
- Y Fonesig Margaret Lloyd George, gwraig David Lloyd George[5]
- Eluned Morgan, awdures
- Kate Roberts, awdures
- Bronwen Pugh, y Fonesig Astor[6]
- Beryl Williams, actores[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Agor Ysgol Dr. Williams i Ferched, Dolgellau. Cymdeithas y Cyn-Ddisgyblion Ysgol Dr Williams, Dolgellau.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Robert Gwyn Jones. BBC LLEOL Gogledd Orllewin: Dysgu yn Nolgellau. BBC.
- ↑ Ers 1975: Coleg Meirion Dwyfor. Cymdeithas y Cyn-Ddisgyblion Ysgol Dr Williams, Dolgellau.
- ↑ Marion Eames: Perceptive historical novelist. The Independent (6 Ebrill 2007).
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein: LLOYD GEORGE (TEULU). Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Addysg ddelfrydol yn straeon Enid Blyton yn bell o’r gwir. Western Mail (1 Rhagfyr 2009).
- ↑ Dyfan Roberts (Tachwedd 2004). Beryl – Y Rhyfeddod Prin. Barn, Cyfrol 502.