Elwyn Hughes

Elwyn Hughes yw Uwch Gydlynydd Cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru, Bangor.[1] Cydnabuwyd ei lwyddiannau dros y 30 mlynedd diwethaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 pan enillodd wobr Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas i gydnabod ei waith.[2][3][4] Astudiodd Elwyn Hughes Ffrangeg ym Mhrifysgol Birmingham ac yna Prifysgol Quebec.[5]

Elwyn Hughes
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Peidied drysu â'r llenor a'r ieithyd, J. Elwyn Hughes

Mae hefyd yn chwarae rhan genedlaethol amlwg ym maes Cymraeg i Oedolion.

Ef yw awdur y cwrs llwyddiannus Wlpan i ddechreuwyr, ond mae hefyd wedi ysgrifennu cyrsiau a llyfrau ar gyfer dysgwyr mwy profiadol ledled gogledd Cymru.

Cydnabuwyd ei gyfraniad i Brifysgol Bangor yn 2000 pan gafodd ei wneud yn Gymrawd Dysgu.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Mr Elwyn Hughes ar y dudalen staff". Gwefan Prifysgol Bangor. 22 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-22. Cyrchwyd 2022-06-22.
  2. "Special Honour for Elwyn on Bangor University's website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-08. Cyrchwyd 2008-06-11.
  3. "Journalist wins Eisteddfod Prose Medal". Daily Post. 4 Awst 2005.
  4. "Lluniau Dydd Iau". BBC Cymru Fyw. Awst 2005.
  5. "Get to Know your Tutors" (PDF). Arwyr Albany (cylchlythyr dysgwyr Cymraeg yng Ngogledd America. Gorffennaf 2007.

Dolenni allanolGolygu