Chris Rees
Gwleidydd cenedlaetholgar Cymreig oedd Edward Christopher Rees (5 Ionawr 1931 – 1 Rhagfyr 2001),[1] a adnabyddir fel Chris Rees.
Chris Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1930 ![]() |
Bu farw | 2001 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Cyflogwr |
Magwyd Chris Rees yn Abertawe ac ymunodd â Phlaid Cymru yn ifanc. Ym 1951, gwrthododd wneud Gwasanaeth Cenedlaethol, ar y sail ei fod yn Gymro, a dedfrydwyd ef i flwyddyn yn y carchar.
Ymgeisydd Plaid CymruGolygu
Tra'n cael ei garcharu eto yn ddiweddarach, safodd dros y blaid yng Ngŵyr yn etholiad cyffredinol y DU yn 1955, gan gymryd ychydig dros 10% o'r bleidlais.[2][3] Safodd yn ddiweddarach yn isetholiad Dwyrain Abertawe 1963, ac eto yn y sedd yn 1964 a 1966, yna ym Merthyr Tudful yn 1970, ond ni chafodd ei ethol.[4]
Ym 1964, etholwyd Rees yn Is-lywydd y Blaid,[4] gan guro Elystan Morgan yn annisgwyl, a oedd yn cael ei gweld fel yr ymgeisydd mwy ceidwadol.[5] Ym 1966, Rees yn lle hynny oedd Cadeirydd cyntaf y Blaid, gan wasanaethu tan 1970.[4]
Er i Rees gael ei fagu mewn teulu Saesneg ei iaith, dysgodd Gymraeg yn oedolyn, a daeth yn brif iaith iddo.[6] Daeth yn ddarlithydd coleg,[7] ac erbyn 1970 yn Gyfarwyddwr Polisi'r Blaid. Yn y rôl hon, lluniodd bolisi iaith manwl a fabwysiadwyd gan y Blaid.[8]
Un o sylfaenwyr WlpanGolygu
Ym 1973, addasodd Rees system Ulpan o ddysgu iaith ar gyfer dysgwyr Cymraeg, gan ei ailenwi'n Wlpan,[9] ac o 1975, canolbwyntiodd ar redeg Canolfan Dysgu'r Gymraeg i Oedolion, a leolir yn yr hyn a ddaeth yn Brifysgol Caerdydd.[10] Bu farw yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2001 yn 70 oed.[11] Galwyd Chris Rees yn "dad yr Wlpan Cymraeg" oherwydd ei waith wrth sefydlu'r fenter.[12] Yn 1973 y cychwynnodd y cyrsiau Wlpan ar gyfer y cyhoedd gyda Gwilym Roberts a Chris Rees yn rhedeg y cwrs Wlpan cyntaf yng hen Ganolfan yr Urdd ar Heol Conwy, Pontcanna, Caerdydd sydd bellach wedi ei ddymchwel ac yn floc o rhandai. Penderfynodd Prifysgol Cymru archwilio i gyrsiau Cymraeg i oedolion ym 1974 a chyflogon nhw Chris Rees fel swyddog ymchwil a datblygu. Brasluniodd Chris Rees faes llafur. Yn ôl erthygl ddwyieithog ar y pwnc ar wefan Parallel Cymru mae ddau ohonyn nhw’n "gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg".[12]
Gweler hefydGolygu
Dolenni allanolGolygu
- Papurau Chris Rees, 1959-69 yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion erthygl ddwyieithog yn Parallel.Cymru sy'n sôn am Chris a sefydlu'r Wlpan
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "JAILED MAN A CANDIDATE", The New York Times, 1 Mai 1955
- ↑ "Cofio Chris Rees 1931-2001". Gwefan Hanes Plaid Cymru. 2021.
- ↑ Dafydd Williams, The story of Plaid Cymru, p.16
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Knut Diekmann, Die Nationalistische Bewegung in Wales, p.640
- ↑ Alan Butt Phillip, The Welsh Question, p.95
- ↑ Bud B. Khleif, Language, ethnicity, and education in Wales, p.39
- ↑ Morgannwg, Vols. 22-26, p.73
- ↑ Clive Betts, Culture in Crisis, p.220
- ↑ Lynda Pritchard Newcombe, Social Context and Fluency in L2 Learners: The Case of Wales, p.21
- ↑ Ed. Diarmuid O'Néill, Rebuilding the Celtic Languages, p.62
- ↑ Ancestry: Mr Edward Christopher Rees in the England and Wales, Death Index, 1989-2018
- ↑ 12.0 12.1 Pritchard Newcombe, Lynda (23 Awst 2018). "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru.