Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas
Mae Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas yn wobr a gyflwynir i diwtor Cymraeg sydd yn, neu wedi gwneud cyfraniad nodedig, i’r sector Dysgu Cymraeg fel ail-iaith. Cyflwynir y Wobr fel rheol ym Mhabell y Dysgwyr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.[1] Cyflwynir y Tlws a gwobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas. Yn ogystal â gwobr ariannol o £300 a thlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynir darn arbennig o femrwn Gregynog i’r enillydd hefyd.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwobr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2000 |
Hanes
golyguCyflwynir y Tlws er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas. Roedd Elvet Thomas yn athro yn Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd, lle ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg, i ddysgu’r iaith. Sefydlodd ef Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y 1920au, ac fe daflodd ei hun i mewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod hwnnw.[1]
Enillwyr y Wobr
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 - y diweddar Chris Rees [2]
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001 - Basil Davies
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 2002 – Felicity Roberts
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003 – er cof am Robina Elis-Gruffydd
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004 – Geraint Wilson-Price
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 – Elwyn Hughes
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 – Keith Rogers ac Elwyn Havard
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007 – Eirian Conlon
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 – Cennard Davies
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 – Shirley Williams
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 - Ken Kane
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 - Gwilym Roberts
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 - Pam Evans-Hughes [3]
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 - June Parry
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 Helen Williams, Crymych, prif diwtor Dysgu Cymraeg Sir Benfro, bu'n dysgu yn Abertawe, Caerdydd a Cheredigion hefyd [1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas". Gwefan dysgwyrcymraeg.cymru. 4 Awst 2018.
- ↑ 2.0 2.1 "Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas 2010". cylchlythyr Y Twitor. 2010.
- ↑ "Newyddion". Newyddlen Dysgwyr Cymraeg y Gogledd. 26 Medi 2013.