Cyfres Crwydro Cymru

(Ailgyfeiriad o Crwydro Cymru)

Cyfres o lyfrau taith ar fröydd a siroedd Cymru yw Cyfres Crwydro Cymru, a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (sefydlwyd yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies). Dechreuwyd eu cyhoeddi yn 1952 a chafwyd 18 o gyfrolau erbyn canol y 1980au.

Bwriad y gyfres oedd cyflwyno hanes, topograffi a diwylliant hen siroedd a bröydd traddodiadol Cymru ar lun llyfrau taith yng nghwmni llenor adnabyddus sy'n adnabod yr ardal yn dda. Roedd y llenorion hynny yn cynnwys Aneirin Talfan Davies, T. I. Ellis, Bobi Jones, Frank Price Jones, Alun Llywelyn-Williams, Gomer M. Roberts a Ffransis G. Payne. Yn ogystal â bod yn arweinlyfrau da, rhan o apêl y gyfres i'r darllenydd heddiw yw'r darlun o gymdeithas Gymraeg y 1950au a'r 1960au a geir ynddynt, a hynny mewn cyfnod pan ymestynnai'r Fro Gymraeg dros ran sylweddol o Gymru.

Yn ddiweddarach ymestynwyd cynllun gwreiddiol y gyfres i gynnwys llyfrau Crwydro am lefydd y tu allan i Gymru, e.e. Ynysoedd Heledd a Llydaw.

Cyfrolau Crwydro Cymru golygu

Yn nhrefn eu cyhoeddi