Emlyn Evans

(Ailgyfeiriad oddi wrth Emlyn Evans (Llyfrau'r Dryw))

Golygydd ac athro oedd Emlyn Evans (192313 Tachwedd 2014) yn oedd yn reolwr ar Llyfrau'r Dryw rhwng 1957 a 1965. Sefydlodd y cylchgrawn Barn ynghyd âg Alun Talfan Davies ac Aneirin Talfan Davies ym 1962, ac ef oedd y golygydd am y ddwy flynedd gyntaf. Rhwng 1968 a 1979 bu'n cyd-olygu y Genhinen gyda'r Parch W. Rhys Nicholas.[1]

Emlyn Evans
Ganwyd1923 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Cafodd ei eni a'i fagu yn y Carnedd, Bethesda. Astudiodd beirianneg trydan, ffiseg a mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a bu'n dringo o fewn y diwydiant trydan gan ddod yn beirianydd cynorthwyol gyda'r Bwrdd Trydan Canolog yn Llundain. Daeth i sylw Aneirin Talfan Davies am ei waith blaenllaw yn sefydlu'r Gymdeithas Lyfrau Cymraeg yn Llundain a daeth yn rheolwr Llyfrau'r Dryw yn Llandybie. Bu'n parhau i gyhoeddi cyfres Crwydro Cymru a dechreuodd gyhoeddi y gyfres Barddoniaeth y Siroedd.[2] Ymddiswyddodd o fod yn rheolwr ym 1965 am fod yna anghytundeb ynglyn â chyhoeddi nofel John Rowlands Ienctid Yw 'Mhechod [3] Roedd Emlyn Evans yn erbyn cyhoeddi.

Yn 1965 fe'i penodwyd ar staff Ysgol Syr Hugh Owen i ddysgu mathemateg. Yna yn 1978 daeth yn rheolwr-gyfarwyddwr Gwasg Gee yn Ninbych.

CyfeiriadauGolygu

  1. / Gwefan Llais Llên
  2. [Barn 623/;4 Td 25]
  3. "/ Gwefan The Modern Nofel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-23. Cyrchwyd 2012-12-10.