Emyr Huws
Pêl-droediwr o Gymro yw Emyr Wyn Huws (ganwyd 30 Medi 1993) sy'n chwarae i Ipswich Town, a hefyd i dîm cenedlaethol Cymru. Mae'n enedigol o Lanelli
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Emyr Wyn Huws[1] | ||
Dyddiad geni | 30 Medi 1993 | ||
Man geni | Llanelli, Cymru | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Ipswich Town | ||
Rhif | 44 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2004–2009 | Abertawe | ||
2009–2012 | Manchester City | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2012–2014 | Manchester City | 0 | (0) |
2012–2013 | → Northampton Town (ar fenthyg) | 10 | (0) |
2014 | → Birmingham City (ar fenthyg) | 17 | (2) |
2014 | → Wigan Athletic (ar fenthyg) | 5 | (0) |
2014–2016 | Wigan Athletic | 11 | (0) |
2015–2016 | → Huddersfield Town (ar fenthyg) | 30 | (5) |
2016–2017 | Caerdydd | 3 | (0) |
2017 | → Ipswich Town (ar fenthyg) | 13 | (3) |
2017– | Ipswich Town | 7 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
Cymru dan 17 | 11 | (0) | |
Cymru dan 19 | 4 | (0) | |
2012– | Cymru dan 21 | 6 | (1) |
2014– | Cymru | 5 | (1) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Mynychodd Ysgol y Strade, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.[2] Treuliodd bum mlynedd gydag academi Abertawe cyn ymuno gyda Manchester City yn 2009.[3]. Mae o hefyd wedi treulio cyfnod ar fenthyg gyda Northampton Town[4].
Ar 15 Ionawr 2014 chwaraeodd ei gem gyntaf i Manchester City yn erbyn Blackburn Rovers yng Nghwpan FA Lloegr. Ar 5 Mawrth 2014, cafodd ei gap cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ[5] welodd Cymru'n ennill 3-1.
Sgoriodd Huws ei gôl gyntaf dros ei wlad ar 13 Tachwedd 2015, mewn gem gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Premier League Clubs submit Squad Lists" (PDF). Premier League. 4 Chwefror 2014. t. 21. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-16. Cyrchwyd 9 Chwefror 2014.
- ↑ Cyfweliad Golwg360
- ↑ "Youth boss Thelwell slams agents". BBC Sport. 29 Hydref 2009. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
- ↑ "BBC Sport". 11 Hydref 2012.
- ↑ "Welsh Football Online". 6 Mawrth 2014.
- ↑ BBC Cymru