Emyr Jones (llenor)
Awdur a addasodd y nofel Gwaed Gwirion oedd Emyr Jones (1914 – 1999). Fe'i ganwyd yn y Waunfawr. Cyhoeddwyd Gwaed Gwirion gyntaf yn 1965 gan Wasg y Brython, Lerpwl. Credwyd hyd at Awst 2014 mai Emyr Jones oedd yr awdur; yn araith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Babell Lên datgelodd y bardd a'r Athro Gerwyn Williams i Emyr Jones gyfieithu rhannau o Gwaed Gwirion o lyfr Saesneg Hell on Earth gan F Haydn Hornsey. Wedi gadael yr ysgol aeth Emyr Jones yn chwarelwr i Chwarel Dinorwig cyn mynychu Coleg Hyfforddi Cartrefle, Wrecsam; yna bu'n athro cynradd yn Abergele ac yn brifathro ym Metws-yn-Rhos.[1]
Emyr Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1914 Waunfawr |
Bu farw | 1999 |
Galwedigaeth | llenor |
Cyhoeddwyd y nofel gyda rhagymadrodd ar ffurf e-lyfr gan Gerwyn Williams yn 2014, gyda sêl bendith y teulu (Gwasg Gomer, ISBN 9781848518025). Ar y clawr nodir mai 'addasiad' ydyw. Yn ei araith dywedodd Williams "...mi ddaeth yn glir bod Emyr Jones wedi cyplysu rhai o benodau Hell on Earth, mae o wedi cwtogi ac ail-drefnu yma a thraw ac wedi ychwanegu ambell bwt."[2]
Ni ellir dweud mai twyll na 'lladrad' oedd hyn, gan i Jones roi cydnabyddiaeth i'r nofel Saesneg Hell on Earth yn rhagymadrodd ei nofel.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.goodreads.com; adalwyd 27 Tachwedd 2014
- ↑ Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 27 Tachwedd 2014