Emyr Huws

(Ailgyfeiriad o Emyr Wyn Huws)

Pêl-droediwr o Gymro yw Emyr Wyn Huws (ganwyd 30 Medi 1993) sy'n chwarae i Ipswich Town, a hefyd i dîm cenedlaethol Cymru. Mae'n enedigol o Lanelli

Emyr Huws
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnEmyr Wyn Huws[1]
Dyddiad geni (1993-09-30) 30 Medi 1993 (30 oed)
Man geniLlanelli, Cymru
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolIpswich Town
Rhif44
Gyrfa Ieuenctid
2004–2009Abertawe
2009–2012Manchester City
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2012–2014Manchester City0(0)
2012–2013Northampton Town (ar fenthyg)10(0)
2014Birmingham City (ar fenthyg)17(2)
2014Wigan Athletic (ar fenthyg)5(0)
2014–2016Wigan Athletic11(0)
2015–2016Huddersfield Town (ar fenthyg)30(5)
2016–2017Caerdydd3(0)
2017Ipswich Town (ar fenthyg)13(3)
2017–Ipswich Town7(0)
Tîm Cenedlaethol
Cymru dan 1711(0)
Cymru dan 194(0)
2012–Cymru dan 216(1)
2014–Cymru5(1)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13 Tachwedd 2015

Mynychodd Ysgol y Strade, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.[2] Treuliodd bum mlynedd gydag academi Abertawe cyn ymuno gyda Manchester City yn 2009.[3]. Mae o hefyd wedi treulio cyfnod ar fenthyg gyda Northampton Town[4].

Ar 15 Ionawr 2014 chwaraeodd ei gem gyntaf i Manchester City yn erbyn Blackburn Rovers yng Nghwpan FA Lloegr. Ar 5 Mawrth 2014, cafodd ei gap cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ[5] welodd Cymru'n ennill 3-1.

Sgoriodd Huws ei gôl gyntaf dros ei wlad ar 13 Tachwedd 2015, mewn gem gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Premier League Clubs submit Squad Lists" (PDF). Premier League. 4 Chwefror 2014. t. 21. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-16. Cyrchwyd 9 Chwefror 2014.
  2. Cyfweliad Golwg360
  3. "Youth boss Thelwell slams agents". BBC Sport. 29 Hydref 2009. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
  4. "BBC Sport". 11 Hydref 2012.
  5. "Welsh Football Online". 6 Mawrth 2014.
  6. BBC Cymru