Neo-Natsïaeth
Term yw Neo-Natsïaeth sy'n cyfeirio at fudiadau, pleidiau ac ideolegau asgell dde eithafol wedi'r Ail Ryfel Byd sy'n ceisio adfer Natsïaeth neu ryw amrywiad arni sy'n adleisio rhai o elfennau crai Natsïaeth fel y gred mewn goruchafiaeth hil neu genedl a/neu drefnu cymdeithas ar linellau "integraliaeth Völkisch."
Anaml mae'r bobl a mudiadau hyn yn defnyddio'r term 'Neo-Natsïaidd' i'w disgrifio eu hunain gan ffafrio yn ei le labeli fel Sosialaidd Cenedlaethol (National Socialist) neu 'Cenedlaetholgar'. Mae rhai pobl sy'n bleidiol i'r ideoleg yn osgoi termau sy'n cael eu cysylltu â Natsïaeth yn hanesyddol: mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, fel Yr Almaen er enghraifft, ceir deddfwriaeth sy'n gwahardd datgan barn o blaid Natsïaeth a daliadau hiliol a gwrth-Semitaidd.
Yn aml mae Neo-Natsïaid yn defnyddio symbolau Indo-Ariaidd a ddefnyddid yn yr Almaen Natsïaidd, fel y Swastika, Rwnau Sig a phatrymau o'r lliwiau coch, gwyn a du. Ymddengys fod gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn ffenomen fyd-eang, gyda mudiadau a phleidiau mewn sawl gwlad a rhwydweithiau rhyngwladol hefyd. Mae unigolion a gysylltir â gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn cynnwys Colin Jordan, George Lincoln Rockwell, John Tyndall, Eddy Morrison, a Nick Griffin.
Mudiadau Neo-Natsïaidd
golyguAffrica
golyguAsia
golygu- TürkischeJugend - Twrci
- Mudiad Sosialaidd Cenedlaethol Twrci - Twrci
- Plaid Sosialaidd Genedlaethol Gweithwyr a Buddianau Japan - Japan
- SUMKA (Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Iran) - Iran
- Cynghrair Ariaidd - (Cynghrair Sosialaidd Cenedlaethol Ariaidd) - Iran
- Cymdeithas Sosialaidd Genedlaethol (Taiwan) - Taiwan
Ewrop
golygu- Hrisi Avgi (Gwawr Euraidd) - Gwlad Groeg
- Imperium europa - Malta
- Nacionalni stroj - Serbia
- Kärntner Heimatdienst - Carinthia
- Danmarks Nationalsocialistiske Bevægelse - Denmarc
Norwy
golyguSweden
golygu- Legion Wasa - Sweden
- Nationalsocialistisk Front - Sweden
- Svenska Motståndsrörelsen - Sweden
- Vitt Ariskt Motstånd - Sweden
Rwsia
golyguY Deyrnas Unedig
golygu- November 9th Society (British Nazi Party)
- British Movement
- Combat 18
- England First Party
- International Third Position
- League of St. George
- National Socialist Movement
- NF Flag Group
- White Nationalist Party
Gogledd America
golygu- Heritage Front - Canada
- Aryan Nation - yr Unol Daleithiau (UDA), Canada
- United National Socialist Movement - UDA, Canada
- Northern Alliance - Canada
Unol Daleithiau
golygu- Plaid Natsïaidd America - UDA
- Cynghrair Cenedlaethol - UDA
- Mudiad Sosialaidd Cenedlaethol - UDA
- National Socialist Vanguard - UDA
- Germanenorder Society UDA
- NSDAP/AO - UDA
Oceania
golygu- National Action - Awstralia
- Patriotic Youth League - Awstralia
- Ffrynt Cenedlaethol Seland Newydd - Seland Newydd
De America
golygu- Partido Nuevo Triunfo - Yr Ariannin[1]
- Carecas do ABC ("Skinheads" rhanbarth ABC) - Brasil
Rhyngwladol
golygu- Blood & Honour - rhwydwaith Neo-Natsïaidd rhyngwladol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Partido Nuevo Triunfo - Orden Nacional". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-01. Cyrchwyd 2009-05-03.