Epidemig Ebola Gorllewin Affrica, 2013-16

Dechreuodd epidemig o glefyd y feirws Ebola yng ngwlad Gini yn Rhagfyr 2013, ond ni chafodd yr epidemig ei ganfod tan Mawrth 2014,[9] ac yn hwyrach ymledodd i Liberia, Sierra Leone, Nigeria a Senegal. Achoswyd yr epidemig gan y feirws Ebola (Zaire ebolavirus). Yn Ionawr 2015, nid oedd Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi fod yr epidemig drosodd, gan fod un neu ddau achos unigol wedi codi ei ben yn ystod 2015;[10] credir hefyd fod oddeutu 11,310 o bobl wedi marw o Ebola - ychydig dros 70% o'r rhai a ddaliodd y firws.

Y sefyllfa yng ngorllewin Affrica
DyddiadRhagfyr 2014 – Mawrth 2016
Marwolaethau
  • Gofal: mae'n bur debygol fod yr amcangyfrifon o farwolaethau'n uwch na'r niferoedd a gofrestrwyd - sydd o bosibl 70% yn is.[1]
Gwlad Achosion Marwolaethau Dyddiad y diweddariad
Ar 20 Ionawr 2016 gan WHO
Liberia Liberia 10,666 4,806 daeth yr haint i ben 9 Mehefin 2016
Sierra Leone Sierra Leone 14,122 3,955 17 Mawrth 2016[2]
Gini Gini 3,804 2,536 daeth yr haint i ben 1 Mehefin 2015[3]
Nigeria Nigeria 20 8 daeth yr haint i ben 19 Hydref 2014
Mali Mali 8 6 daeth yr haint i ben 18 Ionawr 2015[4]
Unol Daleithiau America UDA 4 1 daeth yr haint i ben 21 Rhagfyr 2014[5]
Yr Eidal yr Eidal 1 0 daeth yr haint i ben 20 Gorffennaf 2015[6]
Y Deyrnas Unedig Gwledydd Prydain 1 0 daeth yr haint i ben 10 Mawrth 2015
Senegal Senegal 1 0 daeth yr haint i ben 17 Hydref 2014[7]
Sbaen Sbaen 1 0 daeth yr haint i ben 2 Rhagfyr 2014[8]
Cyfanswm 28,638 11,315

Hwn yw'r tarddiant mwyaf difrifol o Ebola yn nhermau'r nifer o achosion a marwolaethau ers darganfyddiad y feirws ym 1976,[11] ac mae'r nifer o achosion o'r epidemig presennol yn fwy na'r achosion o'r holl epidemigau cynt gyda'i gilydd.[12] Ni chredir bod tarddiant arall o'r clefyd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a laddodd 13 o bobl erbyn 26 Awst 2014, yn gysylltiedig â'r epidemig yng Ngorllewin Affrica.[13]

Erbyn 26 Awst 2014, bu cyfanswm o 3,069 o achosion a 1,552 o farwolaethau (1,752 o achosion a 897 o farwolaethau wedi eu cadarnhau mewn labordai), yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a'r Centers for Disease Control (CDC).[13][14] Cred nifer o arbenigwyr taw tanamcangyfrif yw'r ystadegau swyddogol oherwydd bod nifer o deuluoedd yn anfodlon i roi gwybod i'r awdurdodau iechyd am achosion.[15]

Meddygon o Nigeria yn cael hyfforddiant gan y WHO.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Donald G. McNeil Jr. (2015). "Fewer Ebola Cases Go Unreported Than Thought, Study Finds". New York Times. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2022.
  2. Ebola situation report, World Health Organization, 20 Ionawr 2016; adalwyd 26 Rhagfyr 2022
  3. "End of Ebola transmission in Guinea" (Press release). World Health Organization. 29 Rhagfyr 2015. http://www.afro.who.int/en/media-centre/pressreleases/item/8252-end-of-ebola-transmission-in-guinea.html. Adalwyd 29 Rhagfyr 2015.
  4. "Ebola situation report" (PDF). World Health Organization. 21 Ionawr 2015. Cyrchwyd 22 Ionawr 2015.
  5. "Ebola response roadmap – Situation report 24 December 2014". World Health organization. 26 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-09. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  6. "Ebola situation report". World Health Organization. 22 Gorffennaf 2015.
  7. WHO (22 Hydref 2014). "Ebola Response Roadmap Situation Report" (PDF). who.int. Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
  8. "Situation summary". World Health organization. 5 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2014.
  9. Roy-Macaulay, Clarence (31 Gorffennaf 2014). "Ebola Crisis Triggers Health Emergency". Drug Discov. Dev. Highlands Ranch, Colorado, UDA: Cahners Business Information. Associated Press. Cyrchwyd 3 Awst 2014.
  10. "WHO – WHO Director-General addresses the Executive Board". World Health Organization. Cyrchwyd 27 Ionawr 2016.
  11. "Chronology of Ebola Hemorrhagic Fever Outbreaks". Centers for Disease Control and Prevention. 24 Mehefin 2014. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014.
  12. "Ebola 2014 — New Challenges, New Global Response and Responsibility", New England Journal of Medicine, 20 Awst 2014; adalwyd 31 Awst 2014
  13. 13.0 13.1 "Ebola virus disease – Democratic Republic of Congo". Epidemic & Pandemic Alert and Response (EPR) - Outbreak News. WHO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-25. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
  14. "2014 Ebola Outbreak in West Africa". Centers for Disease Control and Prevention.
  15. McNeil, Donald G., Jr. (13 Awst 2014). "Using a Tactic Unseen in a Century, Countries Cordon Off Ebola-Racked Areas". The New York Times. Cyrchwyd 14 Awst 2014.