Eric McCormack
Mae Eric James McCormack (ganwyd 18 Ebrill, 1963) yn actor, cerddor, ysgrifennydd a chynhyrchydd rhaglenni teledu Americanaidd-Canadaidd. Mae ef wedi ennill Gwobr Emmy.
Eric McCormack | |
---|---|
Ganwyd | Eric James McCormack 18 Ebrill 1963 Toronto |
Man preswyl | Vancouver |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Gwobr/au | Gwobr Emmy, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, GLAAD Vanguard Award |
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Will Truman yn y rhaglen gomedi sefyllfa Will & Grace.
Ei fywyd cynnar
golyguGanwyd McCormack yn Toronto, Ontario, Canada, yn fab i wraig tŷ, Doris a dadansoddwr ariannol i gwmni olew, Keith McCormack. Mae ganddo linach Cherokee ac Albanaidd. Mynychodd Athrofa Colegol Syr John A. Macdonald yn Scarborough, Ontario. Aeth McCormack i'r un ysgol uwchradd a David Furnish, gwr Elton John. Cafodd McCormack ei addysg a'i hyfforddiant actio yng Nghanada yn y Ryerson University School of Theatre yn Toronto,ac mae McCormack wedi bod yn ymddangos mewn cynyrchiadau teledu ers iddo ddechrau'i yrfa ym 1986.
Ei yrfa fel actor
golyguChwaraeodd McCormack ran y Cadfridog Francis Clay Mosby yn y gyfres deledu fer Lonesome Dove: The Series (1994), a Lonesome Dove: The Outlaw Years (1995). Chwaraeodd ran yr anfarwol Matthew McCormick yn Highlander: The Series, rhaglen "Manhunt" (1996). Ym 1997, ymddangosodd mewn rhaglen o The Outer Limits mewn pennod o'r enw "Tempests". Ym 1998 actiodd McCormack mewn ffilm gwlt o'r enw Free Enterprise gyda William Shatner. Chwaraeodd gymeriad a oedd yn seiliedig ar fywyd cyd-ysgrifennydd y ffilm Mark A. Altman. Mae ffilm ddilynol yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd a disgwylir y bydd McCormack yn cymryd y rôl fel Mark.
Daeth enwogrwydd ac adnabyddiaeth i McCormack yn sgîl ei rôl fel y cyfreithiwr hoyw Will Truman yng nghomedi sefyllfa NBC Will & Grace o 1998 hyd 2006.