Ernest Marples
Gwleidydd Ceidwadol o Loegr oedd Alfred Ernest Marples, Barwn Marples (9 Rhagfyr 1907 – 6 Gorffennaf 1978), a wasanaethodd fel Postfeistr Cyffredinol (1957–9) a Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth (1959–64).
Ernest Marples | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1907 Levenshulme |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1978 Monaco |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Priod | Ruth Alianore Dobson |
Fe'i ganwyd ym Manceinion. Bu'n gweithio fel glöwr, postmon, cogydd a chyfrifydd. Yn yr Ail Ryfel Byd fe'i comisiynwyd i'r Magnelwyr Brenhinol ym 1941 a chododd i reng capten. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Wallasey. Bu'n is-weinidog yn llywodraeth Winston Churchill (1951–5) cyn dod yn weinidog yn llywodraethau Harold Macmillan (1957–63) ac Alec Douglas-Home (1963–4).
Tra oedd yn Bostfeistr Cyffredinol (1957–1959), fe oruchwyliodd y broses o gyflwyno'r cynllun Bondiau Premiwm a chodau post. Un dadleuol oedd ei gyfnod fel Gweinidog Trafnidiaeth (1959–1964), cyfnod pan drawsnewidiwyd cymeriad trafnidiaeth yn Ynysoedd Prydain yn aruthrol. Ar y naill llaw bu'n goruchwylio gwaith adeiladu ffyrdd sylweddol – y traffyrdd newydd yn arbennig; ar y llaw arall cychwynnodd gau cyfran sylweddol o'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol o dan y toriadau Beeching. Arweiniodd ei ran yn y busnes adeiladu ffyrdd Marples Ridgway, yr oedd wedi bod yn rheolwr gyfarwyddwr arno, at gyhuddiadau o wrthdaro buddiannau. Yn 1974, ar ôl cwymp y llywodraeth Geidwadol, cafodd Marples ei urddo'n arglwydd ond yn gynnar yn y flwyddyn ganlynol ffodd i Monaco ar fyr rybudd i osgoi erlyniad am dwyll treth. Bu fyw fel alltud am y tair blynedd arall o'i oes.