Erthyliad

dod a bywyd plentyn sydd heb ei eni i ben
(Ailgyfeiriad o Erthylu)

Mae erthyliad yn dod â beichiogrwydd i ben drwy gael gwared ag embryo neu ffetws o'r groth, gan achosi, neu o achos ei farwolaeth. Gall erthyliad ddigwydd yn naturiol o ganlyniad i gymhlethdodau yn y beichiogrwydd neu gall gael ei anwytho. Gan amlaf, mae'r term erthyliad yn cyfeirio at erthyliad beichiogrwydd dynol sydd wedi'i anwytho, tra cyfeirir at erthyliadau naturiol fel colli plentyn neu erthyliad naturiol.

Mae gan erthyliad hanes hir iawn a thros y blynyddoedd defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys perlysiau, offer miniog, trawma corfforol a dulliau traddodiadol eraill. Mae meddygaeth ddiweddar yn defnyddio moddion a llawdriniaethau er mwyn anwytho erthyliad. Mae safbwyntiau cyfreithiol, diwylliannol ynglŷn ag erthyliad yn amrywio o amgylch y byd. Mewn nifer o wledydd, ceir anghydweld mawr ynglŷn ag agweddau moesol a chyfreithiol erthyliad, rhwng mudiadau dros-fywyd a mudiadau o blaid dewis. Amcangyfrifir fod 42 miliwn o erthyliadau wedi'u cynnal yn fyd-eang yn 2003, a oedd yn lleihad o 3 miliwn ym 1995.[1]

Mathau o erthyliadau

golygu

Erthyliad sydyn

golygu

Mae erthyliad sydyn (a elwir yn erthyliad naturiol hefyd) yn golygu symud yr embryo neu'r ffetws o ganlyniad i drawma damweiniol neu achosion naturiol cyn yr 20fed wythnos o'r beichiogrwydd. Digwydda'r mwyafrif o erthyliadau naturiol o ganlyniad i'r cromosomau'n atgynhyrchu'n anghywir; gellir ei achosi hefyd gan ffactorau amgylcheddol. Gelwir beichiogrwydd sy'n dod i ben rhwng 20 a 37 wythnos o'r beichiogrwydd, os yw plentyn byw yn cael ei eni, yn "enedigaeth gynamserol". Pan yw'r ffetws yn marw yn y groth ar ôl tua ugain wythnos, neu wrth gael ei eni, defnyddir y term "marw-anedig". Yn gyffredinol, ni ystyrir genedigaethau cynamserol a marw-anedig yn erthyliadau naturiol er weithiau gall y termau yma gael eu defnyddio.

Ymddengys fod rhwng 10% a 50% o feichiogrwydd yn diweddu gydag erthyliad naturiol, yn dibynnu ar oed ac iechyd y wraig feichiog. Digwydda'r mwyafrif o erthyliadau naturiol yn gynnar iawn yn y beichiogrwydd, a gan amlaf, nid yw'r wraig yn ymwybodol ei bod yn feichiog.

Mae'r siawns o erthyliad sydyn yn lleihau'n sylweddol ar ôl y 10fed wythnos o'r misglwyf diwethaf. Yr achos mwyaf cyffredin dros erthyliad sydyn yn ystod cyfnod cyntaf y beichiogrwydd yw anghysonderau gyda chromosomau'r embryo / ffetws, a chyfra hyn am o leiaf 50% o feichiogrwydd a ddaeth i ben yn gynnar. Gall achosion eraill gynnwys afiechyd fasgwlaidd (megis lwpws), clefyd y siwgr, problemau hormonaidd eraill, heintiadau ac anghysonderau eraill yn y groth. Mae oed beichiogrwydd hŷn a hanes meddygol o erthylu'n naturiol yn ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig ag erthyliad sydyn. Gellir achosi erthyliad sydyn gan drawma damweiniol; ystyrir trawma bwriadol neu straen er mwyn achosi erthylu'n naturiol yn erthyliad wedi'i anwytho neu ffetysladdiad.

Erthyliad wedi'i anwytho

golygu

Gellir erthylu beichiogrwydd mewn nifer o ffyrdd. Mae'r dull yn dibynnu'n helaeth ar oed yr embryo neu'r ffetws, sy'n cynyddu o ran maint wrth iddo dyfu. Gellir defnyddio triniaethau penodol hefyd yn dibynnu ar y gyfraith, yr hyn a gynigir mewn ardal benodol, a dewis personol y meddyg-claf. Ceir rhesymau therapiwtig neu ddewisol dros anwytho erthyliad. Dywedir fod erthyliadau'n therapiwtig pan gaiff ei wneud er mwyn:

  • achub bywyd y wraig feichiog;
  • diogelu iechyd corfforol neu feddyliol y wraig;
  • os fyddai'r beichiogrwydd yn arwain at enedigaeth plentyn gyda chyflwr meddygol a fyddai'n angheuol neu gysylltiedig â marwoldeb uchel; neu
  • dewis i leihau'r nifer o ffetysau mewn beichiogrwydd aml-ffetws, er mwyn lleihau'r peryglon iechyd.

Dywedir fod erthyliad yn ddewisol pan wneir y driniaeth ar gais y wraig "am resymau heblaw am iechyd y fam neu afiechyd y ffetws."[2]

Dulliau erthylu

golygu

Meddygol

golygu

Mae "erthyliadau meddygol" yn erthyliadau sy'n defnyddio cyffuriau heb lawdriniaeth. Mae erthyliadau meddygol yn cyfrif am 10% o holl erthyliadau'r Unol Daleithiau ac Ewrop. Defnyddir cyfuniad o methotrexate neu mifepristone, ac yna prostaglandin. Pan ddefnyddiwyd y dechneg hon o fewn 48 niwrnod, cwblhaodd oddeutu 92% o'r gwragedd eu herthyliad meddygol heb angen am lawdriniaeth. Pan fo erthyliad meddygol yn aflwyddiannus, defnyddir offer sugno er mwyn cwblhau'r erthyliad ar ffurf llawdriniaeth.

Llawdriniaethol

golygu

Yn ystod y 12 wythnos gyntaf o'r beichiogrwydd, allsugnad neu erthyliad sugno yw'r dull mwyaf cyffredin.[3] Gellir gwneud hyn gyda chwistrell allsugno â llaw neu gyda phwmp allsugno trydanol. Weithiau cyfeirir at dechnegau llawdriniaethol fel "Terfyniad o'r Beichiogrwydd drwy Allsugno". O'r 15fed wythnos tan y 26ain wythnos, defnyddir techneg Ymledu a Gwacáu (Y&G). Golyga Y&G fod ceg y groth yn cael ei agor a'i wacáu gan ddefnyddio offer meddygol a sugno.

Yr ail ddull mwyaf cyffredin yw ymledu a chywretio (Y&C) a chaiff y llawdriniaeth ei gweithredu am nifer o resymau, gan gynnwys er mwyn archwilio leinin y groth, ymchwilio i waedu annormal, ac erthyliad. Mae cywretio yn cyfeirio ar lanhau ochrau'r groth gyda chywret. Mae Cyfundrefn Iechyd y Byd yn argymell y driniaeth hon, pan nad yw'n bosib terfynu'r erthyliad drwy allsugno.

Rhaid defnyddio technegau eraill i anwytho erthyliad yn ystod yr ail tri mis. Gellir anwytho genedigaeth gynamserol gyda prostaglandin; gellir cyplysu hwn gyda hylifau costig sy'n cynnwys halwynau carthu neu wrea. Ar ôl 16eg wythnos y beichiogrwydd, gellir anwytho erthyliad drwy ymledu a gwacáu diamhariad (YGD) (yn Saesneg "intrauterine cranial decompression"). I wneud hyn, rhaid datgywasgu pen y ffetws drwy lawdriniaeth cyn ei wacáu. Weithiau gelwir YGD yn "erthyliad rhannol-enedigaeth", ac mae'r dull hwn wedi'i wahardd yn yr Unol Daleithiau. Mae erthyliad hysterotomi yn llawdriniaeth debyg i doriad Cesaraidd, a chaiff ei wneud o dan anaesthetig am ei fod yn cael ei ystyried fel llawdriniaeth fawr ar yr abdomen. Mae'r toriad ei hun yn llai o faint nag mewn toriad Cesaraidd a chaiff ei ddefnyddio yng nghyfnodau hwyrach beichiogrwydd.

O'r 20fed tan y 23ain wythnos o'r beichiogrwydd, gellir defnyddio chwistrelliad i stopio calon y ffetws fel y cam cyntaf o'r driniaeth erthylu[4][5][6][7][8] er mwyn sicrhau nad yw'r ffetws yn cael ei eni'n fyw.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Sedgh, Gilda; Stanley Henshaw, Susheela Singh, Elisabeth Åhman, a Iqbal H. Shah (Hydref 2007). Induced abortion: estimated rates and trends worldwide. Adalwyd ar 17 Mehefin 2010.
  2. (2007) Encyclopedia Britannica, 26 (yn Saesneg), tud. 674
  3.  Healthwise (2004). Manual and vacuum aspiration for abortion. WebMD. Adalwyd ar 17 Mehefin 2010.
  4. Vause S, Sands J, Johnston TA, Russell S, Rimmer S [2008-12-03] (2002). Could some fetocides be avoided by more prompt referral after diagnosis of fetal abnormality?, 3, Cyfrol 22 (yn Saesneg), tud. 243–245. DOI:10.1080/01443610220130490URL
  5. Dommergues M, Cahen F, Garel M, Mahieu-Caputo D, Dumez Y [2008-12-03] (2003). Feticide during second- and third-trimester termination of pregnancy: opinions of health care professionals, 2, Cyfrol 18 (yn Saesneg), tud. 91–97. DOI:10.1159/000068068URL
  6. Bhide A, Sairam S, Hollis B, Thilaganathan B [2008-12-03] (2002). Comparison of feticide carried out by cordocentesis versus cardiac puncture, 3, Cyfrol 20 (yn Saesneg), tud. 230–232. DOI:10.1046/j.1469-0705.2002.00797.x
  7. Senat MV, Fischer C, Bernard JP, Ville Y [2008-12-03] (2003). The use of lidocaine for fetocide in late termination of pregnancy, 3, Cyfrol 110 (yn Saesneg), tud. 296–300. DOI:10.1046/j.1471-0528.2003.02217.xURL
  8. Senat MV, Fischer C, Ville Y [2008-12-03] (2002). Funipuncture for fetocide in late termination of pregnancy, 5, Cyfrol 22 (yn Saesneg), tud. 354–356. DOI:10.1002/pd.290
  9. Nuffield Council on Bioethics [2008-12-03] (2006). "Clinical perspectives (Continued)", Critical Case Decisions in Fetal and Neonatal Medicine: Ethical Issues. Nuffield Council on Bioethics. ISBN 1-904384-14-5URL. OCLC 85782378

Darllen pellach

golygu
  • Kaczor, Christopher. The Ethics of Abortion: Women's Rights, Human Life, and the Question of Justice (Routledge, 2010).
  • Sachdev, Paul. Sex, Abortion and Unmarried Women (Westport, Greenwood, 1993).
Chwiliwch am erthyliad
yn Wiciadur.