Eryr Gwern Abwy
Un o'r Anifeiliaid Hynaf yn chwedloniaeth Cymru yw Eryr Gwern Abwy. Cyfeirir at yr eryr mytholegol hwn yn chwedl Culhwch ac Olwen.
Un o'r Anoethau (tasgau amhosibl) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr yn y chwedl honno yw rhyddhau Mabon fab Modron o'i garchar. Cais Culhwch gymorth Arthur. Anfona'r brenin Bedwyr, Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel ar neges i geisio gwybodaeth am Fabon gan yr Anifeiliaid Hynaf.
Y cyntaf o'r anifeiliaid a holant yw Mwyalchen Cilgwri. Er hyned ydyw, ni ŵyr y fwyalchen lle mae Mabon, ond mae'n eu gyrru at anifail hŷn, sef Carw Rhedynfre. Ni ŵyr y carw chwaith, ac mae'n eu gyrru ar Dylluan Cwm Cowlyd. Cyfarwydda'r dylluan hwy at Eryr Gwern Abwy. Ni ŵyr yr eryr, ond mae'n eu tywys at Eog Llyn Llyw a gyda chymorth yr Eog mae'r arwyr yn darganfod Mabon fab Modron ac mae Arthur a'i ryfelwyr yn ei ryddhau o'i garchar yng Nghaerloyw.
Yn y Trioedd, enwir Tri Hynaif Byd fel Tylluan Cwm Cowlyd, Eryr Gwern Abwy a Mwyalchen Gelli Gadarn.
Mae'r eryr yn aderyn pwysig ym mytholeg y Celtiaid. Fe'i cysylltir â'r Haul. Yn y Mabinogi, mae Lleu Llaw Gyffes yn troi'n eryr ar ôl cael ei daro gan waywffon Gronw Pebr. Mae lleoliad Gwern Abwy yn anhysbys.
Llyfryddiaeth
golygu- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X