Esyllt T. Lawrence
Roedd Esyllt T. Lawrence (3 Rhagfyr 1917 – 4 Ebrill 1995) yn llenor ffeministaidd o Gymru.
Esyllt T. Lawrence | |
---|---|
Ganwyd | Esyllt T. Lawrence 3 Rhagfyr 1917 Treforys |
Bu farw | 4 Ebrill 1995 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, cyfieithydd, newyddiadurwr |
Priod | Lluís Ferran de Pol |
Gwobr/au | Creu de Sant Jordi |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd yn Nhreforys. Disgleiriodd pan oedd yn ifanc iawn gan ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Caergrawnt, a thra yn y brifysgol daeth i adnabod llawer o lenorion ac artistiaid yn cynnwys Virginia Woolf, a bu ei syniadau ffeministaidd yn ddylanwad mawr ar Esyllt.
Priododd âdiplomydd o Loegr ond wnaethon nhw ysgaru tra yn yr Unol Daleithiau. Yn Ninas Mexico fe ddaeth hi ar draws grŵp o weriniaethwyr Catalanaidd a oedd wedi ffoi yn dilyn buddugoliaeth y ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen. Yn 1947 priododd â'r llenor a'r bardd Catalan Lluís Ferran de Pol.
Dychwelodd y cwpwl i Ewrop yn y 1950au, ac er gwaethaf y perygl personol, penderfynon nhw fyw yn Catalonia a oedd ar y pryd o dan ormes Franco. Yn ystod y pedwar deg mlynedd nesaf, o'i chartref yn y dref lan-môr Arenys de Mar, enillodd gryn barch am ei gwaith llenyddol yn Gymraeg, Saesneg, Catalaneg a Sbaeneg a bu’n bont rhwng Cymru a Catalunya. Roedd yn gefnogwr brwd o Blaid Cymru a’r frwydr yn erbyn Franco. Ymhlith ei gwaith cyfieithodd straeon gwerin Catalaneg i’r Gymraeg a'r ddrama Siwan gan Saunders Lewis i'r Gatalaneg. Gweithiodd ar nifer o lyfrau poblogaidd Saesneg i dwristiaid o dan y ffugenw ‘Betty Morris’.
Yn ei blwyddyn olaf enillodd brif anrhydedd Catalunya, sef medal Creu de San Jordi (Croes San Siôr) fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i lenyddiaeth a syniadaeth. Cyflwynwyd y fedal iddi gan arlywydd Catalunya. Mae Esyllt a Lluís wedi’u claddu yn Y Bont-faen.
Llyfryddiaeth
golyguCyn y Wawr (Abans de l'Alba 1954) gan Lluis Ferran de Pol cyfieithwyd gan Victor John ac Esyllt T. Lawrence, Gwasg Gomer 1994.
Dolenni
golygu- Hanes Esyllt T. Lawrence ar wefan Arenys de Mar (Catalaneg)