Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1892

Cynhaliwyd ail etholiad Cyngor Sir Feirionnydd ar 5 Mawrth 1892. Fe'i rhagflaenwyd gan etholiad 1889 ac fe olynwyd gan etholiad 1895. Rhannwyd y sir yn 42 o wardiau un aelod. Gan ei fod wedi ei benodi i fod yn swyddog canlyniadau'r etholiad nid oedd cadeirydd y cyngor cyntaf, Dr Edward Jones, Dolgellau yn cael ail sefyll. [1]

Sêl y Cyngor

Yn etholiad 1889 bu nifer o wardiau trefol efo mwy nag un aelod. Ar gyfer etholiad 1892 roedd y wardiau hynny wedi eu torri i greu wardiau unigol.

Etholiad diwrthwynebiad golygu

Etholwyd cynghorwyr i 32 o'r 42 ward yn ddiwrthwynebiad (Mae seren yn dynodi cyn aelod) [2]

  • Llanaber — *Charles Williams, Hengwm, bonheddwr (Ceidwadol).
  • Corwen, Isadran y gogledd — *William Ffoulkes Jones, masnachwr coed, Glaslwyn (Rhyddfrydol).
  • Corwen, deheuol — *Robert David Roberts. Roberts, groser cyfanwerthol, Bronygraig (Rhyddfrydol).
  • Gwyddelwern - Joseph Davies, ffermwr, Wernddu.(Annibynnol yn cipio sedd Ryddfrydol)
  • Llansantffraid — Hugh Jones, ffermwr, Penybont. (Annibynnol yn cipio sedd Rhyddfrydol)
  • Llanuwchllyn — Thomas Jones, ffermwr, Tanerdy (Rhyddfrydol).
  • Llandderfel — *Thomas Jones, ffermwr, Brynmelyn (Rhyddfrydol)
  • Llanfor — *Richard John Lloyd Price, bonheddwr, Rhiwlas (Ceidwadwr)[3]
  • Corris — *Morris Thomas, fferyllydd, Stryd y Bont, (Rhyddfrydol).
  • Llwyngwril — Evan Hughes, ffermwr, Llechlwyd (Rhyddfrydol).
  • Tal-y-Llyn — John Pugh Jones, siopwr, Tynyffridd (Rhyddfrydol).
  • Abermaw — *Lewis Lewis, Hillside, bonheddwr (Rhyddfrydol).
  • Llanegryn — * William Robert Maurice Wynne Ysw, Peniarth (Ceidwadol)[4]
  • Tywyn gwledig- * David Davies, Tafolgraig, ffermwr (Rhyddfrydol).
  • Tywyn trefol — * Henry Haydn Jones, haearnwerthwr, Pantyneuadd (Rhyddfrydol).
  • Pennal — Hugh Jones, ffermwr wedi ymddeol, Graiandy (Rhyddfrydol).
  • Teigl — Ellis Hughes, chwarelwr, Highgate terrace (Rhyddfrydol) - (Rhyddfrydwyr yn cipio sedd Geidwadol)
  • Conglywal — Robert Roberts, meddyg a llawfeddyg, Isallt (Rhyddfrydol).
  • Ystradau — * William Parry Evans, dilledydd, 27, Stryd yr Eglwys, Ffestiniog, (Rhyddfrydol).
  • Cwmorthin — Humphrey Roberts, rheolwr chwarel, Dolrhedyn. (Rhyddfrydol).
  • Bowydd — * David Griffith Williams, siopwr, Bryn — gwyn, (Rhyddfrydol).
  • Rhiw — * David Griffith Jones, groser, Glasgow House, (Rhyddfrydol)
  • Diffwys — R. O. Jones, cyfreithiwr, Bryn Offeren, (Rhyddfrydol).
  • Gorllewin Trawsfynydd — * J. Humphreys, meddyg a llawfeddyg, Fronwynion — street, (Rhyddfrydol).
  • Maentwrog — * William Edward Oakeley, Ysw, Plas Tan-y-bwlch, (Ceidwadol). [5]
  • Mawddwy — *John Jones, ffermwr, Llwyngrug. (Rhyddfrydol).
  • Llandrillo — *Henry Davies, ffermwr, Tyffos, (Rhyddfrydol)
  • Y Bala — Evan Jones, adeiladwr a chontractwr, Mount place, (Rhyddfrydol).
  • Llanycil — * Roger Hughes, llawfeddyg, (Rhyddfrydol).
  • Llanfrothen — *John Jones, Ysw. Ynysfor, (Ceidwadol).
  • Penrhyndeudraeth — *John K. Rowe, rheolwr chwarel (Rhyddfrydol)
  • Talsarnau — John Bennet Jones, melinydd, (Rhyddfrydol).

Etholiadau Cystadleuol golygu

 
Corsygedol, cartref Ansell

Dyffryn golygu

Llwyddodd John Davies, Glanymorfa i gadw ei sedd ar ran y Rhyddfrydwyr gan drechu William Ansell, Corsygedol.[6]

Dyffryn 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol *John Davies 106
Ceidwadwyr William Ansell 82
Mwyafrif 24
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Harlech golygu

Llwyddodd Dr Richard Thomas Jones, Penygarth i gadw ei sedd yn gyffyrddus gan gynyddu ei fwyafrif o 11 i 117[6]

Harlech 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Richard Thomas Jones 175
Ceidwadwyr F.R. Lloyd 58
Mwyafrif 117
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Maenofferen golygu

Llwyddodd John Parry Jones o'r Banc Dosbarth, Blaenau Ffestiniog i gadw ei sedd ar y cyngor ar gyfer sedd unigol newydd Maenofferen, trwy drechu Abraham Evans, ysgolfeistr.[6]

Maenofferen 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol *John Parry Jones 190
Ceidwadwyr Abraham Evans 138
Mwyafrif 52
Rhyddfrydol yn cipio etholaeth newydd

Cynfal golygu

Mae John Hughes, Hafod fawr isaf, yn colli ei le ar y cyngor gan gael ei drechu yn y sedd unigol newydd, Cynfal, gan yr Unoliaethwr George Henry Ellis, cyfreithiwr, Penymount, Ffestiniog. Daeth Ellis yn drydydd, fel ymgeisydd annibynnol yn sedd unedig Dosbarth Cynfal a Theigl ym 1889.[6]

Cynfal 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Unoliaethol Ryddfrydol George Henry Ellis 56
Rhyddfrydol *John Hughes 45
Mwyafrif 11
Unoliaethol Ryddfrydol yn cipio etholaeth newydd

Dwyrain Trawsfynydd golygu

Mae Robert Hugh Pugh, ffermwr, o Frynllefrith, Trawsfynydd yn cadw ei le ar y cyngor. Bu'n fuddugol fel ymgeisydd annibynnol yn ward unedig Dwyrain a Gorllewin Trawsfynydd ym 1889. Y tro hyn mae'n ennill fel Rhyddfrydwr ac yn trechu David Tegid Jones Gopa, sydd bellach yn annibynnol ond a safodd yn erbyn Pugh fel ymgeisydd Rhyddfrydol ym 1889.[6]

Dwyrain Trawsfynydd 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol *Robert Hugh Pugh 70
Annibynnol David Tegid Jones 57
Mwyafrif 13
Rhyddfrydol yn cipio etholaeth newydd

De Dolgellau golygu

 
Siôp T. H. Roberts, Dolgellau, sydd bellach yn gaffi

Mae Morris Jones, Plasucha yn cadw ei sedd ar y cyngor i'r Rhyddfrydwyr trwy drechu'r Ceidwadwr T H Roberts, gwerthwr nwyddau haearn.[6]

De Dolgellau 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol *Morris Jones 145
Ceidwadwyr T H Roberts 76
Mwyafrif 69
Rhyddfrydol yn cipio etholaeth newydd

Gogledd Dolgellau golygu

 
William Hughes, argraffydd, Dolgellau

Cipiodd Charles Edward Jones Owen, bonheddwr, o Hengwrt Uchaf, Rhydymain sedd newydd unigol Gogledd Dolgellau trwy drechu William Hughes, argraffydd a chyhoeddwr o'r Blaid Ryddfrydol.[6]

Gogledd Dolgellau 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Edward Jones Owen 160
Rhyddfrydol William Hughes[7] 98
Mwyafrif 62
Ceidwadwyr yn cipio etholaeth newydd

Ardal Wledig Dolgellau golygu

Mae Enoch Jones yn ennill Dolgellau Wledig dros y Rhyddfrydwyr gan drechu David Owen, tafarnwr, Tafarn y Cross Keys.[6]

Ardal Wledig Dolgellau 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Enoch Jones 114
Ceidwadwyr David Owen 55
Mwyafrif 59
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Llanfachreth golygu

Mae John Vaughan, Ysw, Nannau yn dal gafael ar ei sedd yn Llanfachreth i'r Ceidwadwyr gan gynyddu ei fwyafrif o ychydig. Perthynas iddo R Nanney Williams o'r Llwyn, Dolgellau oedd yr ymgeisydd Rhyddfrydol.[6]

Llanfachreth 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Robert Vaughan[8] 135
Rhyddfrydol Robert Nanney Williams 88
Mwyafrif 47
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Aberdyfi golygu

Ym 1889 enillwyd sedd Aberdyfi gan James Webster i'r Ceidwadwyr doedd dim ymgeisydd Ceidwadol yn sefyll yn yr etholiad hwn, felly cipiwyd y sedd gan yr ymgeisydd annibynnol Enoch Lewis, Balkan Hill.[6]

Ardal Wledig Dolgellau 1892
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Annibynnol Enoch Lewis 93
Rhyddfrydol William Jones 81
Mwyafrif 12
Annibynnol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Crynodeb golygu

Dyma dabl crynodeb o aelodaeth etholedig y cyngor heb gyfrif henaduriaid

Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1892: Crynodeb
Plaid Seddi Enill Colli Newid % Seddi % Pleidlais Pleidlais +/−
  Rhyddfrydwyr 31 1 3 -2
  Ceidwadwyr 7 1 2 -1
  Annibynnol 3 3 1 +2
  Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol 1 1 0 +1

Cyfarfod Cyntaf golygu

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y cyngor ar 24 Mawrth 1892 yn Nolgellau gyda Dr Edward Jones yn y gadair dros dro. Etholwyd yr henadur Arthur Osmond Williams, Castell Deudraeth, yn gadeirydd a'r cynghorydd Thomas Jones, Brynmelyn, Corwen yn is-gadeirydd.[9]

Dethol Henaduriaid golygu

Yn ystod y cyfarfod cyntaf detholwyd saith henadur newydd.

Roedd Bainc Henaduriaid Sir Feirionnydd yn cynnwys 14 aelod. Roedd henaduriaid yn aelodau o'r cyngor oedd yn cael eu dethol gan y cynghorwyr eraill yn hytrach na'u hethol gan y cyhoedd. Term henadur oedd 6 mlynedd, ac eithrio hanner y rhai a detholwyd ym 1889 a wasanaethodd am dim ond 3 mlynedd. Felly roedd saith henadur o'r hen gyngor oedd i barhau yn eu swydd am 3 blynedd arall a saith sedd i'w llenwi o'r newydd am y 6 mlynedd nesaf.

Yr henaduriaid oedd yn parhau oedd:

  • Samuel Pope, Rhyddfrydwr
  • Osmond Williams, Rhyddfrydwr
  • E. Parry Jones, Rhyddfrydwr
  • Edward Griffith, Rhyddfrydwr
  • Y Cyrnol Edward Evans Lloyd,
  • William Williams, Rhyddfrydwr
  • J. Hughes Jones, Rhyddfrydwr

Yr henaduriaid newydd oedd:

  • Charles Henry Wynn, Rûg, Ceidwadwyr.[10] Roedd C H Wynn yn cyn henadur oedd wedi dod i ben ei dymor ond a ail detholwyd am 6 mlynedd arall.
  • Dr Edward Jones, Dolgellau. Rhyddfrydwr.[11] Bu Jones yn gadeirydd y cyngor blaenorol, ond nid oedd yn cael sefyll yn etholiad 1892 gan ei fod wedi gweithredu fel swyddog canlyniadau'r etholiad
  • E. H. Jonathan. Ffestiniog. Rhyddfrydwr. Roedd E H Jonathan yn cyn henadur oedd wedi dod i ben ei dymor ond a ail detholwyd am 6 mlynedd arall.I
  • John Hughes, Hafodfawr, Rhyddfrydol. Roedd Hughes yn gyn cynghorydd a gollodd ei sedd yn ward Cynfal yn yr etholiad hwn.
  • Andreas Roberts, Ffestiniog. Rhyddfrydol. Cyn henadur oedd wedi dod i ben ei dymor ond â ail detholwyd am 6 mlynedd arall
  • Evan Jones, Mount Place, Bala. Rhyddfrydwr ac aelod etholedig o'r cyngor
  • Lewis Lewis, Abermaw. Rhyddfrydwr ac aelod etholedig o'r cyngor

Isetholiadau golygu

Bu dau isetholiad i ddewis cynghorwyr i gymryd lle'r cynghorwyr a dyrchafwyd i fainc yr Henaduriaid. Bu dau gynghorydd farw yn ystod tymor y cynghor.

Isetholiad Abermaw 1892 golygu

  • Etholwyd Hugh Jones (Rhyddfrydwr), Heol Brogyntyn yn ddiwrthwynebiad yn lle Lewis Lewis a dyrchafwyd i fainc yr henaduriaid. [12]

Isetholiad y Bala 1892 golygu

  • Etholwyd John Parry, groser Y Bala (Rhyddfrydwr) yn ddiwrthwynebiad yn lle Evan Jones a dyrchafwyd i fainc yr henaduriaid.[12]

Isetholiad Abermaw 1894 golygu

Ym mis Mai 1894 bu farw Hugh Jones, cynghorydd newydd Abermaw yn 55 mlwydd oed [13] etholwyd ei gymydog William Williams Heol Brogyntyn (Rhyddfrydwr) fel olynydd iddo.[14]

Marwolaeth Cyng Enoch Jones Dolgellau Wledig 1894 golygu

Ar 6 Mehefin 1894 ymosododd bustach ar y cynghorydd Enoch Jones gan ei ladd[15] gadawyd y sedd yn wag hyd etholiad cyffredinol y cyngor ym mis Mawrth 1895.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Local and district - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1892-02-12. Cyrchwyd 2021-05-30.
  2. "MERIONETH COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1892-03-04. Cyrchwyd 2021-05-30.
  3. Owen, R. (., (1953). PRICE (TEULU), Rhiwlas, plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  4. Davies, W. Ll., (1953). WYNNE (TEULU), Peniarth, Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  5. Davies, W. Ll., (1953). EVANS, GRIFFITH, ac OAKELEY (TEULUOEDD), Tanybwlch, Maentwrog, Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  6. 6.00 6.01 6.02 6.03 6.04 6.05 6.06 6.07 6.08 6.09 "MERIONETH COUNTY COUNCIL|1892-03-11|The Cambrian News and Merionethshire Standard - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  7. Hughes, A. E., (1953). HUGHES, WILLIAM (1838 - 1921), argraffydd a chyhoeddwr, Dolgellau;. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  8. Richards, T., (1953). NANNAU, ' NANNEY ' (TEULU), Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  9. "MERIONETH COUNTY COUNCIL.|1892-03-25|Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  10. "WYNN (TEULU), Rûg, Sir Feirionnydd, a Boduan (Bodfean), Sir Gaernarfon. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  11. Griffiths, R., (2012). JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  12. 12.0 12.1 "Local and District- The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1892-04-08. Cyrchwyd 2021-05-30.
  13. "Heb bennawd - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1894-05-11. Cyrchwyd 2021-05-30.
  14. "BARMOUTH.|1894-06-23|The Cardigan Bay Visitor - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  15. "Mr. Enoch Jones, Cefnmaelan, Dolgellau,|1894-06-08|Y Dydd - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.