Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1889

Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Feirionnydd ar 18 Ionawr 1889. [1] Fe'i holynwyd gan etholiad 1892. Rhannwyd y sir yn nifer o wardiau un aelod gyda dau gynghorydd wedi'u hethol i gynrychioli rhai o'r ardaloedd trefol.

Sêl y Cyngor

Trosolwg o'r canlyniad

golygu

Roedd 1889 yn flwyddyn nodedig yn hanes Rhyddfrydiaeth Cymru, a symbylwyd gan fuddugoliaeth ymgeiswyr Rhyddfrydol ledled Cymru yn etholiadau cyntaf y cynghorau sir. Roedd y canlyniad ym Meirion yn debyg iawn i'r canlyniad yn Sir Aberteifi.

Etholiadau cystadleuol

golygu

Cafwyd 14 etholiad diwrthwynebiad, gan fod y Rhyddfrydwyr wedi sefyll ymgeiswyr ym mhob ward, Rhyddfrydwyr oedd y cyfan o'r aelodau diwrthwynebiad. Roedd nifer fawr o etholiadau cystadleuol ac roedd y mwyafrif yn fach yn y rhan fwyaf o achosion. Yn y rhan fwyaf o achosion bu'r cystadlaethau rhwng ymgeiswyr Rhyddfrydol a Cheidwadol gydag ambell i ymgeisydd Annibynnol (gwleidyddol). Mewn rhai wardiau roedd cystadlu rhwng dau neu ragor o Ryddfrydwyr oherwydd enwadaeth, gyda Rhyddfrydwyr a enwebwyd gan Fethodistiad Calfinaidd yn sefyll yn erbyn Rhyddfrydwyr a enwebwyd gan Annibynwyr (enwadol).[2]

Crynodeb o'r Canlyniadau

golygu

Mae'r adran hon yn crynhoi'r canlyniadau manwl a nodir yn yr adrannau olynol. Hwn oedd yr etholiad sirol cyntaf ac felly nis ellir cymharu ag etholiad blaenorol. Disgrifiwyd un cynghorydd fel ymgeisydd Annibynnol ond cafodd ei grwpio, hefyd, mewn rhai adroddiadau gyda'r Ceidwadwyr.

Dyma dabl sy'n crynhoi canlyniad yr etholiad ar draws y sir. Etholwyd 42 o gynghorwyr.

Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1889: Crynodeb
Plaid Seddi Ennill Colli Newid % Seddi % Pleidlais Pleidlais +/−
  Rhyddfrydwyr 33
  Ceidwadwyr 8
  Annibynnol 1


Canlyniadau

golygu
 
Hysbyseb etholiadol gan James Webster (Aberdyfi)

Abercorris a Thal-y-llyn (dwy sedd)

golygu
Abercorris a Thal-y-llyn 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Morris Thomas 226
Rhyddfrydol William Caradog Jones 192
Ceidwadwyr Edward Williams 169

Ardal Aberdyfi

golygu
Ardal Aberdyfi 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr James Webster 95
Rhyddfrydol John Hughes Jones 89
Mwyafrif 6

Ardal y Bala

golygu

Roedd Richard Jones yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus y Bala, gan wasanaethu ar lawer o gyrff. Cafodd ei ethol yn henadur yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor ond bu farw'n sydyn ym mis Chwefror, yn 65 oed. [3]

Ardal y Bala 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Richard Jones diwrthwynebiad

Ardal Drefol Abermaw

golygu

Trechodd Lewis Lewis, bonheddwr o Hillside, Abermaw, John Robert Davies, bonheddwr, o Compton House, Abermaw. [1]

Ardal Drefol Abermaw 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Lewis Lewis 160
Ceidwadwyr John Robert Davies 109
Mwyafrif 51

Ardal Conglywal

golygu

Trechodd Robert Roberts, meddyg a llawfeddyg o Isallt, Blaenau Ffestiniog Joseph Rhydwen Parry, gweinidog Annibynnol, o Ffordd Manod, Blaenau Ffestiniog. [1]

Ardal Conglywal 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Robert Roberts 163
Rhyddfrydol Joseph Rhydwen Parry 129
Mwyafrif 34

Dosbarth Cynfal a Theigl (dwy sedd)

golygu

Etholwyd William Davies, ffermwr o Caerblaidd, Ffestiniog a John Hughes, ffermwr, o Hafod fawr isaf, Maentwrog, ar draul George Henry Ellis, cyfreithiwr, Penymount, Ffestiniog ac Edward Henry Jonathan, dilledydd, o Paris House, Y Ffor. [1]

Dosbarth Cynfal a Theigl
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Davies 159
Rhyddfrydol John Hughes 105
Annibynnol George Henry Ellis 95
Rhyddfrydol Edward Henry Jonathan 89

Cwmorthin ac Ystradau (dwy sedd)

golygu
 
A M Dunlop

Roedd A M Dunlop yn rheolwr chwareli Oakeley, Ffestiniog. Cafodd perchennog y chwareli, W E Oakeley ei ethol fel cyd aelod o'r cyngor fel ymgeisydd Ceidwadol yn Ward Maentwrog.

Cwmorthin ac Ystradau 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Alexander Milne Dunlop diwrthwynebiad
Rhyddfrydol William Parry Evans diwrthwynebiad

Ardal Gyfun Dolgellau (dwy sedd)

golygu
 
Dr Edward Jones, Dolgellau, cadeirydd parhaol cyntaf y cyngor
Ardal Gyfun Dolgellau 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward Jones[4] 300
Rhyddfrydol Morris Jones 261
Ceidwadwyr John Vaughan 218

Ardal Wledig Dolgellau

golygu
Ardal Wledig Dolgellau
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Robert Pugh 111
Ceidwadwyr Richard Edward Lloyd Richards 95
Mwyafrif 16

Dyffryn

golygu
Dyffryn 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Samuel Pope diwrthwynebiad

Gwyddelwern

golygu
Gwyddelwern 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Robert Edwards diwrthwynebiad

Dosbarth Harlech

golygu

Trechodd Richard Thomas Jones, llawfeddyg, Penygarth Villa, Harlech John Owen, ffermwr, o Frynartro, Llanfair. [1]

Dosbarth Harlech 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Richard Thomas Jones 152
Ceidwadwyr John Owen 141
Mwyafrif 11

Llanaber

golygu

Trechodd Dr Charles Williams o Hengwm, Llanaber[5] John Jones, ffermwr, o Lwyndu, Abermaw. [1]

Llanaber 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Williams 50
Rhyddfrydol John Jones 28
Mwyafrif 22

Llandrillo

golygu
Llandrillo 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Davies diwrthwynebiad

Llandderfel

golygu
Llandderfel 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Thomas Jones diwrthwynebiad

Llanegryn

golygu
 
William R. M. Wynne, Ysw., Peniarth
Llanegryn 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Robert Maurice Wynne[6] 151
Rhyddfrydol John Evans 104
Mwyafrif 48

Llanfachreth

golygu
Llanfachreth 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Robert Vaughan[7] 136
Rhyddfrydol Edward Griffith 91
Mwyafrif 45

Llanfor

golygu
 
R J Lloyd Price, Rhiwlas

Trechodd Richard John Price o'r Rhiwlas William Thomas Rowlands, ffermwr, o Danycoed, Llanfor. [1]

Llanaber 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Richard John Price[8] 141
Rhyddfrydol William Thomas Rowlands 64
Mwyafrif 77

Llanfrothen

golygu

Trechodd John Jones, gŵr bonheddig o'r Ynysfor, Llanfrothen William Hughes, ffermwr, o Gwmcaeth, Nantmor, Beddgelert. [1]

Llanaber 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Jones 142
Rhyddfrydol William Hughes 74
Mwyafrif 68

Ardaloedd Cyfun Llansantffraid a Chorwen (tair sedd)

golygu

Etholwyd William Ffoulkes Jones, masnachwr coed, o'r Terrace, Corwen; Robert David Roberts, groser cyfanwerthol, o Landwr, Corwen, a Hugh Cernyw Williams, gweinidog y Bedyddwyr, o Ffordd Llundain, Corwen ar draul David Robert Jones, llawfeddyg, Ffordd y Bont, Corwen a Horatio Edward Walker, llawfeddyg, o Blasyndref, Corwen. [1]

 
Parch Hugh Cernyw Williams (Hywel Cernyw)
Ardaloedd Cyfun Llansantffraid a Chorwen 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Ffoulkes Jones 341
Rhyddfrydol Robert David Roberts

332
Rhyddfrydol Parch Hugh Cernyw Williams[9] 277
Ceidwadwyr David Robert Jones 252
Ceidwadwyr Horatio Edward Walker 162

Dosbarth Llanuwchllyn

golygu
 
Michael D Jones
Llanuwchllyn 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Michael Daniel Jones[10] 125
Ceidwadwyr John Williams 117
Mwyafrif 8

Llanycil

golygu
Llanycil 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward Peters diwrthwynebiad

Llwyngwril

golygu
Llwyngwril 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ellis Pugh-Jones diwrthwynebiad

Ardal Gyfunol Maenofferen a Diffwys (dwy sedd)

golygu

Etholwyd John Parry Jones o'r Banc Dosbarth, Blaenau Ffestiniog a Robert Owen Jones, cyfreithiwr, y Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog ar draul Morris Jones, deliwr blawd, o Blaenbowydd, Blaenau Ffestiniog. [1]

Ardal Gyfunol Maenofferen a Diffwys 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Parry Jones 276
Rhyddfrydol Robert Owen Jones 264
Annibynnol Morris Jones 173

Maentwrog

golygu
 
William Edward Oakeley
 
Y Parch G Ceidiog Roberts

Trechodd William Edward Oakeley o Blas Tanybwlch Griffith Ceidiog Roberts, gweinidog anghydffurfiol, Gwyndy, Maentwrog. [1] Yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel y cyfarfod Rhyddfrydol cyntaf a gynhaliwyd yn Maentwrog, i gefnogi ymgeisyddiaeth Roberts, siaradodd Tom Ellis AS am dros awr a hanner. [11]

Maentwrog 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Edward Oakeley[12] 134
Rhyddfrydol Griffith Ceidiog Roberts 83
Mwyafrif 51

Ardal Mawddwy

golygu
Mawddwy 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Jones 141
Ceidwadwyr Henry Owen 105
Mwyafrif 36

Pennal

golygu
Pennal 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol James Meredith diwrthwynebiad

Penrhyn a Thalsarnau (dwy sedd)

golygu

Etholwyd J B Jones, melinydd, o Frynyfelin a John Rowe, rheolwr chwarel, o Lasfryn View, Penrhyn, ar draul Edmund Morgan Roberts, ffermwr, o Gefntrefor isaf, Talsarnau a John Morgan, groser, o Canton House, y Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog. [1]

Penrhyn a Thalsarnau 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol J. B. Jones 223
Rhyddfrydol John Rowe 219
Ceidwadwyr Edmund Morgan Roberts 207
Rhyddfrydol John Morgan 72

Rhiw a Bowydd (dwy sedd)

golygu
Rhiw and Bowydd 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Griffith Williams diwrthwynebiad
Rhyddfrydol David Griffith Jones diwrthwynebiad

Ardal Wledig Tywyn

golygu
Ardal Wledig Tywyn 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Parch Griffith Evans diwrthwynebiad

Bu farw'r Parch Griffith Evans ar 6 Tachwedd 1889 [13]

Ardal Drefol Tywyn

golygu
 
Haydn Jones
Towyn Urban District 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Henry Haydn Jones diwrthwynebiad

Ardaloedd Dwyrain a Gorllewin Trawsfynydd (dwy sedd)

golygu

Etholwyd John Humphreys, meddyg a llawfeddyg, o Stryd Fronwynion, Trawsfynydd a Robert Hugh Pugh, ffermwr, o Frynllefrith, Trawsfynydd, ar draul David Tegid Jones, ffermwr, o'r Gopa a William Evans, dilledydd, o Meirion House, Trawsfynydd. [1]

Trawsfynydd Eastern and Western Districts 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Humphreys 162
Annibynnol Robert Hugh Pugh 109
Rhyddfrydol David Tegid Jones 107
Rhyddfrydol William Evans 81

Cyfarfodydd cyntaf

golygu

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y cyngor yn Nolgellau ar 31 Ionawr o dan gadeiryddiaeth dros dro'r cynghorydd Samuel Pope QC, Dyffryn. Roedd y cynghorydd Pope yn ŵr di-gymraeg a chododd nyth cacwn ar ei ben yn syth, trwy farnu mae unig iaith y Cyngor byddai'r Saesneg. Yng nghyfarfod 28 Chwefror 1889 yn y Bala, penodwyd Dr Edward Jones, Dolgellau yn gadeirydd swyddogol cyntaf y cyngor, newidiodd Jones y rheol iaith gan ddweud bod hawl siarad y ddwy cyn belled a bod crynodeb o'r hyn a ddywedwyd mewn un iaith yn cael ei rhoi yn yr iaith arall; y cadeirydd byddai'n gyfrifol am ddarparu'r crynodeb dros gynghorwyr uniaith yn y naill neu'r llall.[14] Cyfarfodydd trefniadol oedd y ddau gyfarfod cyntaf, ffurfiwyd y cyngor fel corff statudol ar 1 Ebrill 1889.[15]

Dethol Henaduriaid

golygu

Yn ogystal â'r 42 cynghorydd, roedd y cyngor yn cynnwys 14 henadur sirol. Detholwyd yr henaduriaid gan y cyngor, a buont yn gwasanaethu am dymor o chwe blynedd. Yn dilyn dethol yr 14 henaduriaid cychwynnol, byddai hanner y fainc henadurol yn cael ei ethol bob tair blynedd. Wedi'r etholiadau cychwynnol, roedd 14 o lefydd gwag i Henaduriaid a phenodwyd yr Henaduriaid canlynol gan y cyngor newydd ei ethol: [1]

Dim ond tri o'r rhai a etholwyd oedd yn aelodau o'r cyngor. [16]

 
Osmond Williams

Detholwyd am chwe blynedd

  • S. Pope, Rhyddfrydwr, (cynghorydd etholedig)
  • Osmond Williams, Rhyddfrydwr
  • John Cadwaladr, Rhyddfrydwr (bu farw ym mis Gorffennaf 1889 [17]. Dewiswyd E. Parry Jones, Cefnymaes, Blaenau Ffestiniog, yn henadur, yn ei le [18])
  • Edward Griffith, Rhyddfrydwr (ymgeisydd wedi'i drechu yn Llanfachreth)
  • Richard Jones, Plasyracre, Rhyddfrydwr (cynghorydd etholedig yn y Bala, bu farw o fewn dyddiau i'r cyfarfod cyntaf o'r cyngor[19] detholwyd y Cyrnol Edward Evans Lloyd, Moel y Garnedd, Y Bala yn ei le.[15])
  • William Williams, Rhyddfrydwr
  • J. Hughes Jones, Rhyddfrydwr

Detholwyd am dair blynedd

 
Cofeb C H Wynn, Capel y Rûg, Corwen
  • Charles Henry Wynn, Rûg, Ceidwadwyr[20]
  • John Evans, Rhyddfrydwr
  • E H Jonathan, Rhyddfrydwr
  • Andreas Roberts. Rhyddfrydol
  • Edward Peters, Rhyddfrydwr (cynghorydd etholedig yn Llanycil)
  • Y Parch G. Ceidiog Roberts, Rhyddfrydwr (ymgeisydd wedi'i drechu ym Maentwrog)
  • William Davies, Pant, Rhyddfrydwr

Isetholiadau

golygu

Bu dau isetholiad i ddewis cynghorwyr i gymryd lle'r cynghorwyr a dyrchafwyd i fainc yr Henaduriaid ac achoswyd dau isetholiad oherwydd marwolaeth aelodau.

Isetholiad Dyffryn

golygu

Ar ôl ddyrchafiad Samuel Pope, llwyddodd John Davies, Glanmorfa, Dyffryn Ardudwy cadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr trwy drechu R. P Owen UH Glanafon.[21]

Ardal Drefol Abermaw 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Davies 112
Ceidwadwyr R. P. Owen 92
Mwyafrif 20
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Isetholiad Llanycil

golygu

Etholwyd Roger Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr i fod yn gynghorydd Llanycil wedi dyrchafiad Edward Peters i fainc yr Henaduriaid

Isetholiad y Bala

golygu

Bu farw Richard Jones, a etholwyd yn henadur, dridiau ar ôl y cyfarfod cyntaf o'r cyngor pan gafodd ei godi i fainc yr henaduriaid.[22] Collodd y Blaid Ryddfrydol y sedd i Edward Watkin, asiant tir, Rhiwlas, ymgeisydd annibynnol, yn rhannol oherwydd bod rhai aelodau o enwad yr Annibynwyr yn flin bod y Blaid Ryddfrydol yn rhoi gormod o ffafriaeth i Fethodistiaid Calfinaidd wrth ddewis ymgeiswyr.[2]

Isetholiad y Bala 1889
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Annibynnol Edward Watkin 147
Rhyddfrydol Evan Jones 132
Mwyafrif 15
Annibynnol yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Isetholiad Ardal Wledig Tywyn

golygu
  • Etholwyd David Davies, Tafolgraig, Aberdyfi, (Rhyddfrydwr) yn ddiwrthwynebiad, fel olynydd i'r diweddar Barch Griffith Evans ar gyfer ward Ardal Wledig Tywyn[23]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 "MERIONETH COUNTY COUNCIL ELECTIONS.|1889-01-25|The Cambrian News and Merionethshire Standard - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-29.
  2. 2.0 2.1 "MELLDITH ENWADAETH - Y Drych". Mather Jones. 1889-03-21. Cyrchwyd 2021-05-29.
  3. "BALA.|1889-02-22|The Cambrian News and Merionethshire Standard - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-29.
  4. Griffiths, R., (2012). JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  5. "DR CHARLES WILLIAMS HENGWM - Y Dydd". William Hughes. 1900-08-03. Cyrchwyd 2021-05-29.
  6. Davies, W. Ll., (1953). WYNNE (TEULU), Peniarth, Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  7. Richards, T., (1953). NANNAU, ' NANNEY ' (TEULU), Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  8. Owen, R. (., (1953). PRICE (TEULU), Rhiwlas, plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  9. Evans, D. T., (1953). WILLIAMS, HUGH (' Hywel Cernyw '; 1843 - 1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  10. Owen, R. G., (1953). JONES, MICHAEL DANIEL (1822 - 1898), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro Coleg Annibynnol y Bala. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  11. "Senedd Meirion". Thomas Gee. 2 January 1889. t. 11. Cyrchwyd 10 July 2015.
  12. Davies, W. Ll., (1953). EVANS, GRIFFITH, ac OAKELEY (TEULUOEDD), Tanybwlch, Maentwrog, Sir Feirionnydd.. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 30 Mai 2021
  13. "Marwolaeth a Chladdedigaeth y Parch GRIFFITH EVANS Aberdyfi - Y Goleuad". John Davies. 1889-11-14. Cyrchwyd 2021-05-30.
  14. "CYNGHOR SIROL MEIRIONYDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-03-06. Cyrchwyd 2021-05-29.
  15. 15.0 15.1 "MERIONETH COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1889-04-05. Cyrchwyd 2021-05-30.
  16. "MERIONETH COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1889-02-01. Cyrchwyd 2021-05-30.
  17. "FFESTINIOG - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-07-20. Cyrchwyd 2021-05-30.
  18. "FFESTINIOG - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-09-28. Cyrchwyd 2021-05-30.
  19. "BALA - Y Dydd". William Hughes. 1889-02-22. Cyrchwyd 2021-05-29.
  20. "WYNN (TEULU), Rûg, Sir Feirionnydd, a Boduan (Bodfean), Sir Gaernarfon. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  21. "DYFFRYN ARDUDWY - Y Goleuad". John Davies. 1889-02-28. Cyrchwyd 2021-05-30.
  22. "--SUDDEN DEATH OF A MERIONETHSHIRE MAGISTRATE.|1889-02-22|Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-30.
  23. "GOGLEDD CYMRU - Y Drych". Mather Jones. 1889-12-12. Cyrchwyd 2021-05-30.