Henry Haydn Jones

gwleidydd (1863-1950)

Roedd Syr Henry Haydn Jones (27 Rhagfyr 18632 Gorffennaf 1950) yn Aelod Seneddol Rhydfrydol dros etholaeth Sir Feirionnydd.

Henry Haydn Jones
Ganwyd27 Rhagfyr 1863 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1950 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Ganwyd Henry Haydn Jones yn Rhuthun. Roedd yn fab i Joseph David Jones (1827-70), ysgolfeistr y dref a cherddor a chyfansoddwr o fri. Wedi marwolaeth ei dad magwyd Haydn Jones gan ei Daid a'i Nain dadol yn Nhywyn ble cafodd ei addysgu yn Ysgol y Bwrdd.

Fel ei dad roedd Haydn Jones yn gerddor lled ddawnus a bu'n godwr canu yng Nghapel MC Tywyn pan oedd ei ddyletswyddau Seneddol yn caniatáu hynny.[1]

Ym 1903 fe ymbriododd Barbara Annie Gwendolen Davies Jones, merch Lewis D. Jones, un o Gymry Chicago a pherchennog gweithfeydd haearn a llechi.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Ym 1889 etholwyd Haydn Jones yn gynghorydd ar Gyngor Sir Feirionnydd ac ym 1890 fe'i a ddyrchafwyd yn Gadeirydd y Cyngor, cafodd hefyd ei wneud yn un o henaduriaid y sir. Fe barhaodd ei yrfa wleidyddol wrth iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd Seneddol ei blaid i olynu Syr Osmond Williams fel darpar ymgeisydd Rhyddfrydol Meirion ym 1909. Safodd ei etholiad cyntaf ym 1910 gan gadw'r sedd i'r achos Rhyddfrydol; parhaodd yn AS hyd 1945.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1937

Gyrfa Busnes

golygu

Ym 1909 rhoddwyd chwarel Bryn Eglwys Abergynolwyn, Rheilffordd Talyllyn ynghyd ag ystâd a thai gweithwyr cysylltiedig ar y farchnad ond prin oedd diddordeb i'w prynu. Gan wybod y byddai colli'r gwaith yn ergyd i'r gymuned penderfynodd Haydn Jones eu prynu am swm o £5,500, a ffurfiodd Abergynolwyn Slate & Slab Co. Ltd i weithredu'r busnes. Gwan bu'r busnes i gychwyn ond cafwyd rhywfaint o adferiad am gyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond fe'i arafwyd eto wedyn. Bu cryn anghydfod rhwng Jones a'r gweithwyr wrth i'r chwarel weithio am ddim ond tridiau'r wythnos neu aros yn gyfan gwbl ar gau am gyfnodau.

Dolenni Allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Osmond Williams
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
19101945
Olynydd:
Emrys Owain Roberts