Mike Pence
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Michael Richard Pence (ganwyd 7 Mehefin 1959). Ef oedd 48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 2017 a 2021. Yn gyfreithiwr yn ôl galwedigaeth, gwasanaethodd fel Llywodraethwr Indiana rhwng 2013 [2] a 2017 ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau rhwng 2001 a 2013. Yn Weriniaethwr, cadeiriodd Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ rhwng 2009 a 2011. Mae Pence yn gefnogwr hirhoedlog i'r mudiad Te Parti.[3][4]
Mike Pence | |
---|---|
48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau | |
Mewn swydd 20 Ionawr 2017 – 10 Ionawr 2021 | |
Arlywydd | Donald Trump |
Rhagflaenwyd gan | Joe Biden |
Dilynwyd gan | Kamala Harris |
50fed Llywodraethwr Indiana | |
Mewn swydd 14 Ionawr 2013 – 9 Ionawr 2017 | |
Lieutenant | Sue Ellspermann Eric Holcomb |
Rhagflaenwyd gan | Mitch Daniels |
Dilynwyd gan | Eric Holcomb |
Aelod o'r Tŷ Cynrychiolwyr o Indiana | |
Mewn swydd 3 Ioanwr 2001 – 3 Ionawr 2013 | |
Rhagflaenwyd gan | David M. McIntosh |
Dilynwyd gan | Luke Messer |
Etholaeth | 2il ardal (2001–2003) 6ed ardal (2003–2013) |
Cadeirydd y Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ | |
Mewn swydd 3 Ionawr 2009 – 3 Ionawr 2011 | |
Dirprwy | Cathy McMorris Rodgers |
Arweinydd | John Boehner |
Rhagflaenwyd gan | Adam Putnam |
Dilynwyd gan | Jeb Hensarling |
Manylion personol | |
Ganed | Michael Richard Pence 7 Mehefin 1959 Columbus, Indiana, U.D. |
Plaid gwleidyddol | Gweriniaethol |
Pleidiau eraill | Democrataid (cyn 1983)[1] |
Priod | Karen Batten (pr. 1985) |
Plant | 3 |
Perthnasau | Greg Pence (brawd) |
Addysg | Coleg Hanover (BA) Prifysgol Indiana, Indianapolis (JD) |
Llofnod | |
Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Ar 14 Grffennaf 2016 dywedodd ymgyrch Donald Trump mai Pence fyddai dewis Trump ar gyfer partner yn etholiad arlywyddol 2016.[5] Aeth ymgyrch Trump-Pence ymlaen i drechu ymgyrch Clinton-Kaine yn yr etholiad Arlywyddol ar Dachwedd 8, 2016. Cafodd Pence ei urddo’n Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Ionawr 20, 2017.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Pence yn Ysbyty Rhanbarthol Columbus yn Columbus, Indiana [6] un o chwech o blant Nancy Jane (g. Cawley) ac Edward J. Pence, Jr [7] [8] ei deulu yn Ddemocratiaid Catholig Gwyddelig.[9]
Graddiodd Pence o Ysgol Uwchradd Gogledd Columbus ym 1977. Enillodd BA mewn Hanes o Goleg Hanover ym 1981 a JD o Ysgol y Gyfraith Robert H. McKinney o Brifysgol Indiana ym 1986.
Ar ôl graddio o ysgol gyfraith ym 1986, bu Pence yn gweithio fel atwrnai mewn practis preifat.[10] Parhaodd i ymarfer y cyfraith yn dilyn ei ail rediad aflwyddiannus i'r Gyngres.
Tŷ Cynrychiolwyr yr UDA (2001–2013)
golyguYm mis Tachwedd 2000, etholwyd Pence i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2il Ranbarth Cynghresol Indiana ar ôl i beriglor chwe blynedd David M. McIntosh (1995-2001) ddewis rhedeg am lywodraethwr Indiana.
Ar 8 Tachwedd, 2006, cyhoeddodd Pence ei ymgeisyddiaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Weriniaethol(arweinydd lleiafrifol) yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Canolbwyntiodd datganiad Pence, yn cyhoeddi ei rediad am arweinydd lleiafrifol, ar "ddychwelyd i werthoedd" Chwyldro Gweriniaethol 1994. Ar Dachwedd 17, collodd Pence i’r Cynrychiolydd John Boehner o Ohio trwy bleidlais 168–27–1 (aeth yr un bleidlais i’r Cynrychiolydd Joe Barton o Texas).[11]
Gwasanaethodd Pence am gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor Astudio Gweriniaethol. Roedd aseiniadau ei Bwyllgor yn Nhŷ’r UD yn cynnwys: Materion Tramor, Is-bwyllgor ar y Dwyrain Canol a De Asia (Is-gadeirydd); Barnwriaeth, Is-bwyllgor ar y Cyfansoddiad (Is-gadeirydd), ac Is-bwyllgor Eiddo Deallusol, Cystadleuaeth, a'r Rhyngrwyd .
Tra yn y Gyngres, roedd Pence yn perthyn i Cawcws y Tea Party.[12] Roedd Pence hefyd yn perthyn i'r Cawcws cynghresol a'r Rhyngrwyd, Cawcws Cadwraeth Ryngwladol, a Cawcws Chwaraewyr.
Ar ôl etholiad mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pence na fyddai’n rhedeg i’w ailethol yn Gadeirydd Cynhadledd y Gweriniaethwyr.[13] Ar 5 Mai 2011, cyhoeddodd Pence y byddai'n ceisio'r enwebiad Gweriniaethol ar gyfer Llywodraethwr Indiana yn 2012. [14] [15]
Llywodraethwr Indiana (2013–2017)
golyguAr 6 Tachwedd 2012, enillodd Pence yr etholiad llywodraethol,[16] gan drechu'r enwebai Democrataidd John R. Gregg a'r enwebai Libertaraidd Rupert Boneham .
Daeth Pence yn 50fed Llywodraethwr Indiana ar 14 Ionawr 2013.
Gwnaeth Pence diwygio treth yn yr ardal, sef toriad cyfradd treth incwm o 10%, yn flaenoriaeth ar gyfer 2013.[17]
Ar 26 Mawrth 2015, llofnododd Pence Mesur Senedd Indiana 101, a elwir hefyd yn fil "gwrthwynebiadau crefyddol" Indiana (RFRA), yn gyfraith.[18] Cafodd llofnodi'r gyfraith ei feirniadu'n helaeth gan bobl a grwpiau a oedd yn teimlo bod y gyfraith wedi'i geirio'n ofalus mewn ffordd a fyddai'n caniatáu gwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT. [19] [20]
Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth Pence ceisio'n aflwyddiannus i atal ffoaduriaid o Syria rhag cael eu hailsefydlu yn Indiana.[21]
Enwebiad is-arlywyddol 2016
golyguYm mis Gorffennaf 2016, dywedodd Trump fod tri o bobl ar ei restr fer: Chris Christie, Newt Gingrich a Pence ei hun. Ar 14 Gorffennaf 2016, adroddwyd bod Trump wedi dewis Pence fel ei phartner.[22] Ar 15 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Trump ar ei Twitter mai Pence fyddai ei phartner. Gwnaeth gyhoeddiad ffurfiol yn Ninas Efrog Newydd ar 16 Gorffennaf 2016.
Byddai Trump yn mynd ymlaen i drechu Clinton yn yr etholiad cyffredinol gan wneud Pence yn Is-Arywydd-ethol yr Unol Daleithiau.
Is-Alywydd yr Unol Daleithiau (2017-2021)
golyguCafodd Pence ei urddo fel 48ain Is-Arywydd yr Unol Daleithiau ar ôl cael ei dyngu gan Clarence Thomas ar Ionawr 20, 2017.
Ar 27 Ionawr 2017, siaradodd Pence yn y March for Life yn Washington DC, gan ddod yn is-Arlywydd cyntaf a swyddog yr Unol Daleithiau ar y safle uchaf i siarad erioed yn y digwyddiad blynyddol. [23] [24]
Ym mis Chwefror 2020, penodwyd Pence yn gadeirydd Tasglu Coronafirws y Tŷ Gwyn, a sefydlwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 yn yr Unol Daleithiau.[25]
Ymbellhawyd oddi wrth Trump ar ddiwedd ei dymor. Yn gyntaf wnaeth mynd i'r gyngres 6 Ionawr 2021 i ardystio canlyniadau etholiad 2020 o blaid y bleidlais ddemocrataidd i Joe Biden (enillydd), yn erbyn addewid yr Arlywydd Trump. Dywedodd ei fod yn rhaid iddo ddilyn y cyfansoddiad a dim gwrthdroi'r bleidlais. Daeth o dan fygythiad wrth ddweud hyn wrth i derfysgwyr oedd yn cefnogi Trump dorri i mewn i'r capitol wrth i'r ardystio digwydd, yn beth a elwir Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gludo i stafell ddiogel cyn i'r terfysgwyr achosi niwed. Ar ôl i'r heddlu a swyddogion diogelwch cael gafael yn y sefyllfa a gwneud y Capitol yn ddiogel parhawyd gan ardystio Biden fel arlywydd nesaf America.[26]
Fe wnaeth hefyd mynd i urddo Biden ar 20 Ionawr 2021 pan wnaeth Arlywydd Trump ddim hyd yn oed ystyried mynd i'r seremoni yn groes i draddodiad 150 mlynedd. Yn ogystal nid oedd Pence wedi mynd i seremoni diwedd Trump yn Joint Base Andrews.[27][28]
Bywyd personol
golyguMae Pence a'i wraig Karen Pence wedi bod yn briod ers 1985. Mae ganddynt dri o blant: Michael, Charlotte, ac Audrey. Mae Pence yn Gristion. Ma ei frawd, Greg, yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eason, Rrian (November 9, 2016). "Next VP: 10 things to know about Indiana Gov. Mike Pence". IndyStar. Cyrchwyd December 4, 2016.
- ↑ "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. November 6, 2012. Cyrchwyd December 17, 2012.
- ↑ Amber Phillips, 10 things you should know about Mike Pence, Donald Trump’s likely running mate, Washington Post (July 14, 2016).
- ↑ Michael Muskal, Mike Pence to run for Indiana governor: Republicans had expected Rep. Mike Pence, a 'tea party' favorite, to join the state race to succeed Gov. Mitch Daniels, who may make a run for the GOP presidential nomination, Los Angeles Times (May 5, 2011).
- ↑ "Donald Trump's Campaign Signals He Will Pick Mike Pence as Running Mate". The New York Times. July 14, 2016.
- ↑ Reports, Staff. "The Mike Pence timeline: Path from Columbus to the White House". The Republic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-19.
- ↑ "Wedding Bells Ring Out For 3 S. Side Couples". Chicago Daily Tribune. April 5, 1956.[dolen farw]
- ↑ http://www.indystar.com/relart/20121006/NEWS05/210060343
- ↑ Burton, Danielle (November 15, 2006).What You Didn't Know About Rep. Mike Pence of Indiana, U.S. News & World Report accessed March 31, 2015.
- ↑ "Your Local Officials: Indiana Governor Mike Pence". National Retail Federation.
- ↑ "Boehner elected as Republican leader: Succeeds Hastert in top GOP role in Democratic-controlled House" Archifwyd 2012-10-20 yn y Peiriant Wayback, Associated Press, November 17, 2006
- ↑ Janie Lorber, Tea Party Caucus Tackles Racism Charge (July 21, 2010).
- ↑ "Letter of Resignation from House Republican Caucus" (PDF). Cyrchwyd November 3, 2010.
- ↑ Camia, Catalina (January 27, 2011). "Rep. Pence to skip GOP race for president". USA Today. Cyrchwyd August 18, 2011.
- ↑ Muskal, Michael (May 5, 2011). "Mike Pence to run for Indiana governor". Los Angeles Times. Cyrchwyd May 5, 2011.
- ↑ "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. November 6, 2012. Cyrchwyd December 17, 2012.
- ↑ Rucker, Philip (December 12, 2014) – "Mike Pence Lays Out Vision for a Presidential Campaign. But Will He Be a Candidate?". The Washington Post. Retrieved January 1, 2015.
- ↑ "Indiana Gov. Pence defends religious objections law: 'This bill is not about discrimination' – The Chicago Tribune – 26 March 2015".
- ↑ "Thousands march in Indiana to protest law seen targeting gays". Reuters. March 29, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-29. Cyrchwyd 2020-07-31.
- ↑ "These Religious Groups Want Nothing To Do With Indiana's New Law". The Huffington Post. April 4, 2015.
- ↑ "Exodus, continued: Indiana's governor is losing his fight to keep Syrian refugees away: Most other governors seem to have quietly dropped the matter". The Economist. March 14, 2016. Cyrchwyd March 15, 2016.
- ↑ James Briggs and Tony Cook (July 14, 2016). "Pence is Trump's VP pick". The Indianapolis Star.
- ↑ Gaudiano, Nicole (January 27, 2017). "At Anti-Abortion Rally, Mike Pence is a Beacon of Hope". USA Today. Cyrchwyd January 27, 2017.
- ↑ Fredericks, Bob (January 27, 2017). "Mike Pence Makes History by Rallying with Pro-Life Marchers". New York Post. Cyrchwyd January 27, 2017.
- ↑ "For Pence, Coronavirus Task Force Is A High-Profile Assignment With Political Risk". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-31.
- ↑ "Swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod terfysgoedd Washington wedi marw". Golwg360. 2021-01-08. Cyrchwyd 2021-01-20.
- ↑ Semones, Evan. "Vice President Harris bids farewell to Pence". POLITICO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-20.
- ↑ Caralle, Katelyn (2021-01-20). "Mike Pence arrives for Biden's inauguration in final split from Trump". Mail Online. Cyrchwyd 2021-01-20.
Dolenni allanol
golygu- Mike Pence am Lywodraethwr Archifwyd 2012-10-26 yn y Peiriant Wayback
- Ymddangosiadau ar C-SPAN
- Proffil a Ballotpedia