Euddogwy

sant Cymreig

Sant neu esgob o Gymru oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6g).

Euddogwy
Cerflun ar un o golfnau eglwys Llandogo; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw.
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Bro-Gerne Edit this on Wikidata
Bu farw615 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl2 Gorffennaf Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Euddogwy, Llanddeugwy (Llandogo)

Hanes a thraddodiad

golygu

Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo.[1] Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n annhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig.

Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy (Llandogo) yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.[2]

Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.

Llyfryddiaeth

golygu

Vita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893).
  2. G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.