Ewrasia

cyfandir
(Ailgyfeiriad o Eurasia)

Cyfandir mawr sy'n cynnwys Ewrop ac Asia yw Ewrasia. Sut bynnag, mae llawer o bobl yn meddwl bod Ewrop ac Asia yn gyfandiroedd gwahanol oherwydd bod gwahaniaeth mawr yn eu diwylliant. Ar y llaw arall, mae llawer o haneswyr yn dweud bod De Ewrop, De Asia a Gorllewin Asia yn debyg iawn i'w gilydd, yn fwy felly nag y mae De Ewrop i weddill Ewrop, neu Dde a Gorllewin Asia i weddill Asia. Felly maen' nhw'n rhannu Ewrasia yn Dde Ewrasia a Gogledd Ewrasia.

Map o'r byd yn dangos Ewrasia
Delwedd loeren gyfansawdd o Ewrasia

Yng ngoleuni gwyddorau daear mae'n amlwg bod Ewrasia yn gyfandir ynddo'i hun.

Fel rheol, derbynir Mynyddoedd yr Wral fel y ffin rhwng Ewrop ac Asia.

Gweler hefyd golygu