Rhanbarth deheuol cyfandir Asia yw De Asia sy'n cynnwys y gwledydd i dde'r Himalaya, ac yn ôl rhai diffiniadau y gwledydd cyfagos yn y gorllewin a'r dwyrain. Yn dopograffaidd fe'i dominyddir gan Blât India, sef isgyfandir India i dde'r Himalaya a'r Hindu Kush. Mae De Asia yn ffinio â Gorllewin Asia i'r gorllewin, Canolbarth Asia i'r gogledd, Dwyrain Asia (Tsieina) i'r gogledd, De Ddwyrain Asia i'r dwyrain, a Chefnfor India i'r de. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'r rhanbarth yn cynnwys Affganistan, Bangladesh, Bhwtan, India, Iran, Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanca.[1] Weithiau cynhwysir Myanmar a Tibet.

De Asia
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAsia Edit this on Wikidata
GerllawBae Bengal Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCanolbarth Asia, Dwyrain Asia, De-ddwyrain Asia, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.9°N 72.2°E Edit this on Wikidata
Map
De Asia

Cyfeiriadau golygu