E. Gwyndaf Evans
Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu "Gwyndaf" (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986).[1] Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
E. Gwyndaf Evans | |
---|---|
Ffugenw | Gwyndaf |
Ganwyd | 7 Mawrth 1913 |
Bu farw | 10 Mawrth 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, athro |
Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r awdl Magdalen, [2] y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Yn 22 oed ef yw'r ieuengaf erioed i ennill Y Gadair.
Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.[3] Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978.[1]
Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.[3]
Llyfryddiaeth
golygu- Magdalen a cherddi eraill (Gwasg Gomer, 1962)
- Cerddi Gwyndaf: y casgliad cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee, 1987)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Y Parch E Gwyndaf Evans BA Eco'r Wyddfa Ebrill 1986 Tud:3
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Enillwyr y Gadair Archifwyd 2019-01-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Tachwedd 2017
- ↑ 3.0 3.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru