Evan Hoyt
Chwaraewr tenis o Gymru yw Evan Hoyt (ganwyd 16 Ionawr 1995).
Evan Hoyt | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1995 Torreón |
Man preswyl | Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Chwaraeon |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni yn ninas Torreon yng ngogledd Mecsico. Mae ei fam, Cathy, yn Gymraes o Lanelli a'i dad, Tom yn hanu o Flint yn nhalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau. Symudodd y teulu i Gymru pan oedd Evan yn blentyn a cafodd ei fagu yn Llanelli.[1][2] Dechreuodd chwarae tenis pan oedd yn 5 oed.[3] Mae'n chwarae tenis gyda'i law dde ac yn ffafrio arwynebau caled.
Gyrfa
golyguChwaraeodd ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Wimbledon yn 2011 a chafodd y profiad o chwarae sesiwn ymarfer yn erbyn Rafael Nadal, pencampwr Wimbledon ar y pryd.
Cyrhaeddodd Hoyt safle ATP o 414 ar 17 Rhagfyr 2018. Mae hefyd wedi cyrraedd safle 247 mewn dyblau, a hynny ar 17 Rhagfyr 2018.
Mae Hoyt wedi ennill 1 teitl dyblau ATP Challenger ym Mhencampwriaeth Denis Ryngwladol Canberra 2018.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Wimbledon yn chwarae dyblau gyda Luke Johnson yn erbyn Nicholas Monroe and Mischa Zverev ar 4 Gorffennaf 2019, ond aeth y pâr allan yn y rownd gyntaf.. Ef oedd y cyntaf o Gymru i gystadlu yn Wimbledon ers Rebecca Llewellyn yn 2006.[4] Cystadlodd hefyd yn y dyblau cymysg gyda Eden Silva. Cyrhaeddodd y pâr y rownd go gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Ivan Doig a Latisha Chan. Sgôr terfynol y gêm oedd 7-5 7-6 (5).[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Clwb Tenis Llanelli yn “eithriadol o falch” o weld Evan Hoyt yn Wimbledon , Golwg360, 4 Gorffennaf 2019.
- ↑ "'Wimbledon: Evan Hoyt's Journey for Mexico to Wimbledon via Llanelli', BBC Sport".
- ↑ "'Evan Huyt', ITF World Tennis Tour". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-31. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2019.
- ↑ "'Evan Hoyt: Welshman set for Wimbledon senior bow in men's doubles', BBC Sport". BBC News. 4 Gorffennaf 2019.
- ↑ Daeth diwedd ar obeithion Evan Hoyt yn Wimbledon , Golwg360, 12 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd ar 13 Gorffennaf 2019.