Byddin Rhyddid Cymru

(Ailgyfeiriad o FWA)

Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).

Byddin Rhyddid Cymru
Enghraifft o'r canlynolparamilitary organization Edit this on Wikidata
IdiolegAnnibyniaeth i Gymru Edit this on Wikidata
Daeth i ben1969 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata


Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.

Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.

Achos llys golygu

Ym 1969, rhoddwyd naw o arweinyddion y fyddin, Julian Cayo-Evans, Dennis Coslett, William Vernon Davies, Vivian George Davies, Keith Davies (Gethin ab Iestyn) a David Bonnar Thomas[1]David John Underhill, Glyn Rowlands a Tony Lewis[2] ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.

Ar ddechrau'r achos gwrthododd y diffynyddion ufuddhau i'r orchymyn "All Silence", trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.

Er bod y mwyafrif o'r troseddau honedig cyhuddwyd y diffynyddion o'u cyflawni wedi eu cyflawni, yn ôl y cyhuddwyr, yn Siroedd Caerfyrddin a Meirionydd, cynhaliwyd yr achos traddodi yng Nghaerdydd a'r achos o flaen Llys y Goron yn Abertawe. Gofynnodd John Gower QC ar ran Dai Bonner i'r achos cael ei glywed yn Llys y Goron Caerfyrddin gan awgrymu bod yr awdurdodau wedi dewis Caerdydd ac Abertawe ar gyfer clywed yr achos yn fwriadol, o'r herwydd y tebygolrwydd uwch o gael rheithfarn wrth Gymreig yn y dinasoedd nac yn y trefi Cymraeg, gwrthodwyd y cais. Gwrthododd Cayo a Cosslett pledio, a chofrestrwyd ple o ddieuog ar eu rhan, plediodd y diffynyddion eraill yn ddieuog. Gan fod Cayo a Glyn Rowlands yn dymuno i'r achos cael ei glywed trwy'r Gymraeg, caniatawyd i gyfieithwyr eistedd y tu ôl iddynt i sibrwd cyfieithiad Cymraeg o'r achos yn eu clustiau[3] .

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Charges against alleged Free Wales Army members.Times [London, England] 7 Mar. 1969: 4. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth, 2016. [1]
  2. Nine men for trial in Wales army case. Times [London, England] 13 Mar. 1969: 3. The Times Digital Archive. Adalwyd 29 Mawrth 2016.[2]
  3. Our South Wales Correspondent. Accused sing the Welsh anthem. Times (London, England) 17 Apr. 1969: 2. The Times Digital Archive. Web. 29 Mar. 2016.[3]