Far Rockaway, Queens

Cymdogaeth yn nwyrain gorynys Rockaway yn Queens, un o fwrdeistrefi Dinas Efrog Newydd, yw Far Rockaway a leolir ar Long Island yn ne talaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Dyma'r mwyaf dwyreiniol o naw cymdogaeth y gorynys, a elwir y Rockaways. Estynna Far Rockaway o'r ffin â chymdogaeth Edgemere, sef Beach 32nd Street, hyd at y goror rhwng Queens a Swydd Nassau. Saif ar ben mwyaf dwyreiniol Traeth a Rhodfa Rockaway, sydd yn ymestyn ar hyd lan ddeheuol y gorynys. I'r gogledd mae Bae Jamaica, ac i'r de mae Cefnfor yr Iwerydd. I'r de-ddwyrain, dros y dŵr, lleolir Barynys Long Beach.

Far Rockaway
Mathcymdogaeth, cymuned heb ei hymgorffori Edit this on Wikidata
Poblogaeth60,035 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirQueens Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
TalaithEfrog Newydd
Cyfesurynnau40.6009°N 73.757°W Edit this on Wikidata
Cod post11691 Edit this on Wikidata
Map

O ran llywodraeth leol, lleolir Far Rockaway yn Nosbarth Cymunedol 14 Queens, a chôd post (ZIP) y gymdogaeth yw 11691. Caiff yr ardal ei phlismona gan 101fed Ward Adran Heddlu Dinas Efrog Newydd.

 
Grand View Avenue yn y 1910au

Trigolion brodorol y Rockaways oedd yr Indiaid Canarsee, grŵp o lwyth y Mohegan a oedd yn byw yn ne-orllewin Long Island adeg sefydlu Amsterdam Newydd gan drefedigaethwyr Iseldiraidd. Mae'n debyg bod yr enw "Rockaway" yn tarddu o air brodorol, o'r ieithoedd Algonciaidd, am draeth neu dywotir. Erbyn 1639, gwerthodd y Mohegan y rhan fwyaf o dir y Rockaways i Gwmni Gorllewin India'r Iseldiroedd . Ym 1664 bu'r Saeson yn drech na'r Iseldirwyr, a throdd gwladfa Amsterdam Newydd yn Efrog Newydd.[1] Yn 1685, cytunodd penadur y Tackapoucha a llywodraethwr Seisnig y dalaith i werthu'r Rockaways i'r Capten John Palmer am 31 punt sterling.[2]

Dynodwyd Gorynys Rockaway yn wreiddiol fel rhan o Dref Hempstead, a oedd ar y pryd yn rhan o Swydd Queens. Bu dadl rhwng y Capten Palmer a Thref Hempstead dros berchenogaeth Rockaway, felly ym 1687 gwerthodd Palmer y tir i Richard Cornell, meistr haearn o Flushing, Queens. Symudodd Cornell a'i deulu i fyw mewn ffermdy ar yr hyn sydd bellach yn Central Avenue, ger glannau'r Iwerydd, a nhw oedd yr Ewropeaid cyntaf i wladychu'r orynys. Claddwyd Cornell ym mynwent deuluol fechan, Mynwent Cornell.[2]

Ar ddiwedd y 19g, wrth i Orynys Rockaway ddenu mwy a mwy o dwristiaid yn yr haf, penderfynodd Cymdeithas Rockaway adeiladu gwesty. Prynwyd y rhan fwyaf o hen eiddo Cornell gan aelodau'r gymdeithas, a oedd yn cynnwys llawer o gyfoethogion yr ardal. Codwyd y Marine Pavilion ar y safle honno, ac ymhlith y gwesteion oedd Henry Wadsworth Longfellow, Washington Irving, a'r teulu Vanderbilt. Adeiladodd Cymdeithas Rockaway hefyd Dyrpeg Rockaway. Llosgwyd gwesty'r Marine yn ulw ym 1864, ond adeiladwyd mwy o westai a phreswylfeydd preifat yn yr ardal.[2]

Yn y 19g, teithiodd pobl i'r Rockaways mewn cerbyd a cheffyl, neu ar gefn ceffyl. Hwyliodd fferi ager o Lower Manhattan i Brooklyn, gan gysylltu ynys Manhattan â Long Island. Erbyn y 1880au, adeiladwyd Lein Traeth Rockaway i gysylltu gorsaf Far Rockaway â gweddill Rheilffordd Long Island.[2] Aeth y trên stêm i Long Island City a Gorsaf Derfynol Flatbush Terminal (bellach Gorsaf Atlantic). Pan agorodd yn y 1880au, ysgogodd y cysylltiad hwn dwf poblogaeth ar Orynys Rockaway. Rhoddodd Benjamin Mott 7 acr (2.8 ha) o dir i Reilffordd Long Island ar gyfer canolfan trenau. Cynyddodd gwerth y tir yn yr ardal a thyfodd busnesau lleol, a phentref cymharol fawr oedd Far Rockaway erbyn 1888.[2] Ymgorfforodd yn swyddogol fel pentref ar 19 Medi 1888.[3]

Erbyn 1898, roedd yr ardal wedi'i hymgorffori fel rhan o Ddinas Efrog Newydd Fwyaf, a oedd yn cynnwys Queens. Ceisiodd Far Rockaway a dau bentref arall yng Ngorynys Rockaway, Hammels ac Arverne, ymgilio o awdurdodaeth y ddinas sawl gwaith. Ym 1915 a 1917, pasiwyd mesur o blaid ymwahaniad yn y ddeddfwrfa ond rhoddwyd feto arno gan faer Dinas Efrog Newydd, John Purroy Mitchel.[4]

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Henry L. Schoolcraft, "The Capture of New Amsterdam", English Historical Review (1907).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Rockaway... 'place of waters bright'" Error in Webarchive template: URl gwag., rockawave.com. Accessed March 16, 2015.
  3. Documents of the Senate of the State of New York, Volume 8, t.9
  4. "The Rockaways". Rootsweb.com. Cyrchwyd December 6, 2006.

Dolenni allanol

golygu