Farz Forn
Teisen neu bwdin draddodiadol o Lydaw yw Farz forn yn Llydaweg (ceir hefyd far au four) ac yn aml Far Breton yn Ffrangeg ac ieithoedd tramor.[1] Mae ei sylfaen yn debyg o ran cyfansoddiad i gytew clafoutis: cwstard wyau a llaeth fel fflan gyda blawd wedi'i ychwanegu ato. Mae eirin sych (prŵns) neu resins yn ychwanegiadau cyffredin.[2] Mae nifer o ryseitiau sydd ar gael ar wefannau poblogaidd yn awgrymu socian ffrwythau sych mewn alcohol; nid yw hyn yn arfer traddodiadol ond mae'n gwneud amrywiad diddorol.
Math | teisen |
---|---|
Yn cynnwys | chicken egg, llaeth, siwgr, blawd gwenith, Rym, Prŵn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair "far" neu "farz" yn dod o'r Lladin, farn sy'n golygu "gwenith, corn,".[3] Dywedir bod 60 gwahanol fath o "farz" i gael mewn coginio Llydewig.[4]
Mae'r term "forn" yn cyfateb i'r Cymraeg "ffwrn". Mae'n cyfeirio at y farz sy'n cael ei bobi yn y ffwrn neu'r popty.
Coginio
golyguMae ei gysondeb a'i liw yn atgoffa rhywun o gacen gaws - brown euraidd ar y tu allan ac ysgafn iawn ar y tu mewn. Ond mae'n blasu fel pwdin pob, Kaiserschmarrn neu gaserol semolina melys. Mae'r Farz yn groes rhwng crempog drwchus a chaserol melys. Mae'r toes tenau yn cael ei bobi am amser hir ar dymheredd cymharol isel (60-90 munud ar 150 ° C) ac felly'n caffael ei flas nodweddiadol ei hun.
Mae Farz fel y'i gweinir yn Llydaw yn aml yn cael ei choginio i ymddangosiad llawer mwy "llosgedig" nag y mae ryseitiau ar-lein yn ei ddangos; mae top y cwstard yn ymddangos bron yn ddu yn hytrach nag yn frown euraidd.
Mae "Farz" yn air Llydaweg ar gyfer crempogau wedi'u pobi mewn dysgl gaserol. Mae camgyfieithiadau ar gyfer Farz Farn (neu "far") yn cynnwys "Phare breton" (o'r gair "phare" sef 'goleudy' yn Ffrangeg) a "Flan breton" (mae fflans yn cael eu coginio mewn baddon dŵr, fodd bynnag).
Dull coginio
golygu- 250 gram o flawd
- 150 gram o siwgr
- 4 wy
- 1 pecyn o siwgr fanila neu hanfod fanila
- 1 litr o laeth
- Gellir defnyddio 100 gram o ffrwythau sych (eirin; prŵn neu resins hefyd)
- menyn
- 1 gwydraid o galvados neu rym i flasu
- Sinamon i flasu
Cymysgwch gynhwysion sych yn gyntaf (blawd, siwgr a siwgr fanila). Ychwanegu wyau a'u curo gyda'i gilydd (neu wahanu wyau ac ychwanegu melynwy wedi'i guro a gwynwy wedi'i guro ar wahân). Ychwanegu llaeth ac ychwanegu calvados neu rym i flasu.
Taenwch fenyn mewn dysgl bastai a rhowch ffrwythau sych yn y ddysgl. Arllwyswch y toes drosto. Pobwch am 45 i 60 munud mewn popty wedi'i gynhesu ymlaen llaw ar 175 °C i 200 ° C nes ei fod yn frown golau ac wedi'i goginio. Ysgeintiwch siwgr a/neu sinamon ar ei ben i flasu.
Hanes
golyguYn wreiddiol roedd y Farz Forn yn bwdin arbennig, a oedd ond yn cael ei weini ar ddiwrnodau fel Mardi Gras, dydd Sadwrn y Pasg, gwyliau’r Pasg a gwyliau Llydaweg traddodiadol fel y pardwn crefyddol.
Yn union fel y crêpes a'r uwd enwog, roedd Farz yn arfer bod yn rhan bwysig o'r boblogaeth wledig, ac mewn gwirionedd roedd y ryseitiau'n deillio o reidrwydd. Er na allai’r rhan fwyaf o deuluoedd gwerin tlawd fforddio cig a seigiau eraill, roedd digonedd o flawd, wyau, llaeth, siwgr a menyn o hyd.
Rhagflaenydd hanesyddol y Farz Forn yw "farz", a gafodd ei goginio mewn cawl, ei friwsioni neu ei dorri'n dafelli ac yna ei fwynhau gyda chig a llysiau. Mae'r traddodiad hwn yn dal i fyw yn y département Penn-ar-Bed lle mae kig ha farz yn cael ei fwynhau yn enwedig ar ddydd Sadwrn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Deseine, Trish (24 October 2008). "Far breton aux pruneaux". Times Online. Cyrchwyd 19 March 2010.[dolen farw]
- ↑ Bertinet, Richard (16 Mai 2009). "Richard Bertinet's Far Breton". Times Online. Cyrchwyd 19 Mawrth 2010.
- ↑ "far - Wiktionnaire" (yn Ffrangeg). fr.wiktionary.org. Cyrchwyd 2021-09-23.
- ↑ "Il existe plus de 60 types de fars en Bretagne". France 3 Bretagne. 2019. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2024.
Dolenni allanol
golygu- Rysáit Farz Forn ar wefan BBC
- Rysáit Farz Forn Recette : Farz Forn (Far Breton) du chef Thierry Breton - La Quotidienne ar Youtube