Father Christmas
Hen gymeriad Seisnig yw Father Christmas sy'n symbol o ddathliadau'r Nadolig. Plethwyd y cymeriad cynhenid Seisnig yma gyda thraddodiad Santa Claus tua ddiwedd y 19g. Yr enw Cymraeg arno, bellach, yw Siôn Corn. Mae'r erthygl hon am y traddodiad Seisnig cynhenid.
Bydd arbenigwyr llên-gwerin yn cymharu'r ffigwr â chymeriadau a duwiau mytholegol megis Sadwrn, Neiddion ac Odin.[1]
15g - 17g
golyguCeir y cofnod cynharaf am Siôn Corn, neu ymbersonoliad o'r Nadolig, mewn carol o'r 15g a briodolir i Richard Smart, Rheithor yn Plymtree, Dyfnaint sy'n dyfynnu deialog rhwng grŵp o bobl â 'Sir Christëmas':[2]
Nowell, Nowell, Nowell, Nowell,
"Who is there that singeth so?"
"I am here, Sir Christëmas."
"Welcome, my lord Christëmas"
Welcome to us all, both more and less
Come near, Nowell!
Mae'r ffigwr hefyd yn ymddangos yn y 16g mewn rhai ysgrifau sy'n gwrthwynebu gwaharddiad y Piwritaniaid ar ddathliadau'r Nadolig. Ceir hefyd gofnod o sioeau ffasiwn yng Nghaerefrog lle gwelir person sy'n symbol o'r Nadolig ac sy'n dod â chig a chacennau,[2] tra yn adeg y Tuduriaid a'r Stiwartiaid ceir sôn am "Captain Christmas", "The Christmas Lord" neu "Prince Christmas".[2]
Yn 1616, gwelir cymeriad "Father Christmas" fel prif-symbylydd drama gan Ben Jonson, Christmas, His Masque (1616) a berfformiwyd yn llys Iago I, brenin Lloegr. Bwriad y ddrama oedd hyrwyddo ail-ddarganfod y Nadolig Seisnig fel gwrthgyferbyniad i wrthwynebiad a gwaharddiadau'r Piwritaniaid.[2][3] Disgrifir 'Father Christmas', fel ""attir'd in round Hose, long Stockings, a close Doublet, a high crownd Hat with a Broach, a long thin beard, a Truncheon, little Ruffes, white shoes, his Scarffes, and Garters tyed crosse".[3]
Delweddir Father Christmas yn hwyrach ymlaen fel dyn lletach.
Cyfeirir at 'Father Christmas' yn hwyrach mewn masque gan Thomas Nabble yn 1638 [2] ac mewn rhai pamffledi yn erbyn gwaharddiadau piwritanaidd ar draddodiadau Nadolig Seisnig megis; An Hue and Cry after Christmas (1645) a The Examination and Tryall of the Old Father Christmas (1658).[2]
19g
golyguYn dilyn ail-ddarganfod y Nadolig 'traddodiadaol' yn y cyfnod Fictorianaidd mae 'Father Christmas' yn ymddangos yn fynych mewn delweddau cylchgronnau a llyfrau a chardiau cyfarch.[2]
Ond mae'r delweddau yma o 'Father Christmas', yn amrywio'n fawr o'r rhai blaenorol.[2] Dangosa'r 'London Illustrated News' o'r 1840au fel ffigwr mewn gwisg o oes Elisabeth I sy'n gafael mewn tancard yn cynnwys gwin a'i haddurno â chelyn[2] neu gyda bwlen wasail denau a Boncyff Nadolig.[2]
Ceir darluniad enwog o Father Christmas yn nofel enwog, A Christmas Carol gan Charles Dickens yn 1843, lle mae'n ymddangos fel ysbryd Nadolig Heddiw' (Christmas Present) gyda darluniau gan John Leech sy'n ei bortreadu fel dyn tew mewn gwisg ffwr yn dal celynnen.[2]
Erbyn diwedd y 19g mae Father Christmas yn cael ei gysylltu â ffigwr sy'n dod ag anrhegion i blant gan blethu'r enw gyda chwedl neu draddodiad Santa Claus.[2]
Siôn Corn Cymraeg
golygu- Prif: Siôn Corn
Daeth yr arfer o alw'r cymeriad "Father Christmas" neu "Santa Claus" yn Siôn Corn yn yr 1930au yn dilyn ysgrif gan J. Glyn Davies yn 1922.[4] Tyfodd yr enw mewn poblogrwydd gyda thŵf addysg a chyfryngau Cymraeg o ail chwarter yr 20g ymlaen.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.bbc.co.uk/history/british/ten_ages_gallery_07.shtml
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 http://www.arthuriana.co.uk/xmas/pages/english.htm
- ↑ 3.0 3.1 http://www.hymnsandcarolsofchristmas.com/Poetry/christmas_his_masque.htm
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46554414