Awdures a bardd o Rwsia oedd Fazu Alieva (5 Rhagfyr 1932 - 1 Ionawr 2016) a oedd yn newyddiadurwr wrth ei gwaith bob dydd. Mamiaith Fazu Alieva oedd Afareg, sy'n un o'r ieithoedd Nakh-Daghestanian a siaredir yn Dagestan, Chechnya, Ingushetia a gogledd Azerbaijan. Mae hi wedi ysgrifennu dros 102 o lyfrau barddoniaeth a rhyddiaith wedi'u cyfieithu i 68 o ieithoedd y byd.

Fazu Alieva
Ganwyd5 Rhagfyr 1932 Edit this on Wikidata
Rhanbarth Khunzakhsky Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 2016 Edit this on Wikidata
Makhachkala Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky
  • Prifysgol Addysg y Wladwriaeth, Dagestan Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, llenor, amddiffynnwr hawliau dynol, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Order of St. Andrew the Apostle the First-Called, Urdd Teilyngdod República del Daguestan Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Rhanbarth Khunzakhsky ar 5 Rhagfyr 1932 a bu farw yn Makhachkala, Dagestan o fethiant y galon. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn ifanc iawn a chafodd ei hystyried yn fardd go iawn yn ei blynyddoedd ysgol. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky, Prifysgol Addysg y Wladwriaeth, Dagestan.[1]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.

Chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Dagestani mewn llenyddiaeth yn Rwsia. Roedd hefyd yn ymgyrchydd dros hawliau dynol.

Dyfarnwyd iddi ddwy o wobrau "Bathodyn Anrhydedd", dwy wobr "Cyfeillgarwch Pobl" a "Gwobr St Andrew" yn 2002. Dyfarnwyd iddi Fedal Aur Cronfa Heddwch Sofietaidd, Medal Jiwbilî Cyngor Heddwch y Byd, a gwobrau anrhydeddus mewn sawl gwlad dramor.[2]

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad marw: http://tass.ru/kultura/2568768. dyddiad cyrchiad: 1 Ionawr 2016.
  2. "Народная поэтесса Дагестана Фазу Алиева отметила свой день рождения". Mkala.mk.ru. Cyrchwyd 1 Ionawr 2016.