Môr Udd
môr
(Ailgyfeiriad o Y Sianel)
Cainc neu gulfor yw'r Môr Udd (Ffrangeg: La Manche; Saesneg: English Channel; Cernyweg: Mor Bretannek; Llydaweg: Mor Breizh) o Fôr Iwerydd; dyma'r môr rhwng Lloegr a Ffrainc. Mae'r môr yn cysylltu'r Môr Iwerydd yn y gorllewin â Môr y Gogledd yn y dwyrain. Mae'n bosib y daw'r enw o'r gair 'rhudd' (coch) neu 'rydd' (rhyddid), a defnyddid y gair 'y Môr Rudd' ers talwm. Fodd bynnag mae'r sillafiad a ddefnyddir heddiw (Môr Udd) wedi'i gofnodi yn y 13g, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru pan gofnodwyd yn Llyfr Gwyn Rhydderch: "o Fôr Udd (Mor Rudd) i Fôr Iwerddon".[1]
Map o'r Môr Udd | |
Math | culfor, môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Ffrainc |
Gerllaw | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 50°N 2°W |
Hyd | 560 cilometr |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Môr_Udd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.