Gwrthwynebydd cydwybodol

person nad yw'n dymuno ymuno a byddin

Person sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall person gwrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.[1] Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gweithgaredd, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Math bod dynol Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi fel arall pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro â system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol.

Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian.

Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau di-filwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn Deddf y Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym.

Ym Mhrydain, roedd consgripsiwn wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol yn ystod dau gyfnod modern: 1916–18 (Y Rhyfel Byd Cyntaf) a 1939–1960 (Yr Ail Rhyfel Byd).

Y Rhyfel Byd CyntafGolygu

Yn ystod blwyddyn gyntaf ers pasio'r Ddeddf Gonsgripsiwn ym Mhrydain, a basiwyd yn 1916, ymrestrodd 1.1 miliwn ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y nifer wedi codi i 2.5 miliwn.

Doedd llawer o bobl ddim yn hoffi consgripsiwn ac ym mis Ebrill 1916 protestiodd dros 200,000 o bobl yn Sgwâr Trafalgar. Gwrthododd tua 16,000 o ddynion ymladd ar sail foesol a chrefyddol ac roedd 900 o’r rhain yn Gymry. Roedden nhw’n cael eu galw yn wrthwynebwyr cydwybodol (‘conshis’) er bod 7,000 o heddychwyr wedi cytuno i wneud gwasanaeth nad oedd yn cynnwys ymladd, yn aml fel cludwyr stretsieri ar flaen y gad.

o 1914 ymlaen roedd aelodau’r Gymdeithas Dim Gorfodaeth Filwrol (No-Conscription Fellowship – NCF) wedi gwrthwynebu’r ymgyrch gorfodaeth filwrol oherwydd roeddynt yn credu bod pob bywyd dynol yn sanctaidd. Ni lwyddasant i wneud hynny, ond fe wnaethon nhw hefyd ymgyrchu dros ddeddf yn caniatáu i bobl ddewis peidio ag ymuno â’r fyddin ar sail cydwybod. Y tro hwn roeddynt yn llwyddiannus. Fe’i gelwid yn ‘gymal cydwybod’.

Os oeddech chi am fod yn wrthwynebwr cydwybodol roedd rhaid ymddangos gerbron tribiwnlys (math o lys), lle byddech yn cael gwrandawiad. Os oeddech yn medru profi eich bod chi yn perthyn i grŵp crefyddol fel y Crynwyr, roedd mwy o siawns iddynt eich credu. Os nad oeddynt yn eich credu fe’ch gorchmynnwyd i ymrestru neu i fynd i’r carchar. Roedd y tribiwnlysoedd yn cynnwys pobl leol a oedd wastad yn cynnwys rhywun o’r fyddin oedd â’r bwriad i ddymchwel eu hachos. Doedd neb i siarad ar eu rhan. Doedd dim erlyniad nag amddiffyniad. Nid oedd hyn yn system deg ac fe gafodd ei wella yn yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd cyfanswm o 6,000 o ddynion eu carcharu am wrthod ymladd a dedfrydwyd 35 o’r rhain i farwolaeth, er i’w dedfrydau gael eu newid i 10 mlynedd yn y carchar.[2] 

Wynebodd y gwrthwynebwyr cydwybodol driniaeth lem nid yn unig oddi wrth y carcharorion eraill ond hefyd oddi wrth swyddogion y carchar gan eu bod yn cael eu cyfrif yn ȋs na llofruddwyr a threiswyr. Mae eu triniaeth anwaraidd yn cael ei hadlewyrchu yn yr ystadegau sy’n dangos y bu 71 o wrthwynebwyr cydwybodol farw yn y carchar tra bod 31 wedi eu cofnodi yn wallgof. Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol a anfonwyd i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn cael eu saethu am fod yn gachgwn ac yn ôl amcangyfrifon roedd y nifer yn agos i 38,000. Cosbwyd y gwrthwynebwyr cydwybodol ymhellach drwy rwystro eu rhyddhau o’r carchar hyd 1919 fel bod y milwyr oedd yn dychwelyd o’r meysydd ymladd yn cael blaenoriaeth a’r cynnig cyntaf i gael swyddi.[3]

Dewisiadau i wrthwynebwyr cydwybodolGolygu

Os oedd y tribiwnlys yn eich credu, cynigwyd cyfle i chi wneud rhywbeth arall dros eich gwlad nad oedd yn cynnwys lladd, megis ymuno ag uned feddygol y fyddin, neu Uned Ambiwlans y Cyfeillion (Friends Ambulance Unit). Fel arall gellid gofyn i chi weithio ar y tir i gynhyrchu bwyd: gelwid dynion a wnaeth hynny yn ‘alternativists’. Cynigwyd swyddi yn y fyddin i wrthwynebwyr eraill, nad oedd yn golygu hyfforddiant milwrol neu gario arfau. Byddent yn cyflawni dyletswyddau megis darparu cyflenwadau i’r fyddin neu gynnal ffyrdd a rheilffyrdd. Derbyniodd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr un o’r dewisiadau hyn.

Fodd bynnag, i rai gwrthwynebwyr roedd hyd yn oed y syniad o wneud rhywbeth fel ffermio yn ffordd anuniongyrchol o gadw’r rhyfel i fynd. Gelwid nhw yn ‘absolutists’. Roedd gan y tribiwnlysoedd y grym i roi rhyddhad diamod iddynt, ond yn anaml iawn y digwyddai hynny. Yn aml cafodd eu ceisiadau eu troi i lawr yn gyfan gwbl, a golygai hyn y medrent gael eu galw i’r fyddin. Pe byddent wedyn yn gwrthod, caent eu trosglwyddo i’r fyddin fodd bynnag, a phe byddent yn anufuddhau i orchmynion caent eu dedfrydu gan lys marsial a’u hanfon i’r carchar. Roedd y carchar yn aml yn golygu llafur caled, carchariad unig, a chamdriniaeth gorfforol a seicolegol. Tybir bod rhyw 81 o wrthwynebwyr wedi marw fel canlyniad i’r driniaeth gawsant yn y fyddin, mewn carchardai neu mewn ‘canolfannau gwaith’. Fe wnaeth teuluoedd gwrthwynebwyr a garcharwyd ddioddef hefyd. Ni dderbyniasant unrhyw gefnogaeth ariannol, ac yn aml trodd ffrindiau a chymdogion gefn arnynt (e.e. gan roi pluen wen iddynt, yn symbol o lwfrdra).

Carcharwyd tua 6,000 o wrthwynebwyr i gyd ym Mhrydain. Arweiniodd carchariad cynifer o ddynion at sylw yn y Wasg ac yn y Senedd, ac yn 1916 cyflwynwyd dewis arall a oedd yn caniatáu i wrthwynebwyr fyw mewn gwersyll gwaith a gwisgo eu dillad eu hun. Roedd canolfannau gwaith felly yn bodoli ger Aberdeen yn yr Alban, ac yn Dartmoor.

Yng Nghymru gweithiodd gwrthwynebwyr cydwybodol ar gronfeydd dŵr Llanon a Llyn-y-Fan yn Sir Gaerfyrddin.[4]

Yr Ail Ryfel BydGolygu

Gyda rhyfel ar y gorwel, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Hyfforddiant Milwrol 1939. Roedd hyn yn golygu y gallai dynion 20–22 oed gael eu galw i fyny i hyfforddi am 6 mis – dyma oedd y tro cyntaf i gonsgripsiwn gael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o heddwch. Pan ddechreuodd y rhyfel ar 3 Medi 1939, daeth pob dyn rhwng 18 a 40 oed yn gymwys i gael ei alw i fyny o dan y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol (Lluoedd Arfog). Unwaith yn rhagor, gwnaed trefniadau ar gyfer y rhai hynny oedd yn gwrthod gwasanaethu ar sail foesol. Fe wnaethon nhw wynebu tribiwnlysoedd milwrol ond oherwydd profiad y Rhyfel Byd Cyntaf cawson nhw eu trin yn fwy dyngarol. Roedd llawer yn gwneud swyddi lle doedd dim rhaid ymladd, er enghraifft, gwaith sifil, ar y ffermydd ac mewn ysbytai.[2]

Heddychwyr o GymruGolygu

Ymhlith heddychwyr amlycaf Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd George M.Ll. Davies, Ithel Davies, y bardd Gwenallt (David James Jones) a Niclas y Glais. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn enwedig yn ystod y degawdau a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd, daeth gweithgarwch mudiadau heddychol yn fwy amlwg, er enghraifft, Cymdeithas y Cyfeillion a’r Undeb Llw Heddwch.[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) conscientious objector. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.
  2. 2.0 2.1 "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  3. Llyfrgell Genedlaethl Cymru. "Gwrthwynebwyr Cydwybodol". HWB. Cyrchwyd 2020-06-11.
  4. "Cydwybod a dewis". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-06-11.
  5. "Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-05-15. Cyrchwyd 2020-06-11.
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.