Ferdinand III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand III (13 Gorffennaf 1608 – 2 Ebrill 1657) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1637 i 1657, yn Archddug Awstria o 1637 i 1657, yn Frenin Bohemia o 1627 i 1657, ac yn Frenin Hwngari o 1625 i 1657.
Ferdinand III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1608 Graz |
Bu farw | 2 Ebrill 1657 Fienna |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Priod | Maria Anna o Sbaen, Maria Leopoldine of Austria, Eleonora Gonzaga |
Plant | Leopold I, Philip August von Habsburg, Maximilian Thomas Erzherzog von Österreich, Marie von Habsburg, Theresia Maria Josefa von Habsburg, Ferdinand Josef Alois Erzherzog von Österreich |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur |
llofnod |
Ganed Ferdinand yn Graz, Dugiaeth Styria, un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn fab hynaf i Ferdinand, Archddug Awstria, a'i wraig Maria Anna, Tywysoges Bafaria. Ym 1619 coronwyd Ferdinand yr hynaf yn Ferdinand II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Bachgen galluog a llawn egni oedd Ferdinand, a dechreuodd fynychu cynghorau'r gweinidogion ac ymwneud â materion gwladol ym 1626 pan oedd yn ei arddegau. Fe'i coronwyd yn Frenin Hwngari ym 1625 ac yn Frenin Bohemia ym 1627.[1]
Yn ôl gorchymyn y Pencadfridog Albrecht von Wallenstein, ni chafodd Ferdinand y cyfle i reoli byddinoedd yr ymerodraeth yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48). Cynllwyniodd Ferdinand i ddiswyddo Wallenstein ym 1630, a dan ei gyfarwyddyd llwyddodd lluoedd y Hapsbwrgiaid ym 1634 i gipio Regensburg ac i drechu'r Swediaid ym Mrwydr Cyntaf Nördlingen. Arweiniodd Ferdinand y garfan heddwch yn y llys Hapsbwrgaidd wrth drafod Heddwch Prâg (1635).[1]
Etholwyd Ferdinand yn Frenin y Rhufeiniaid ym 1636, ac yn sgil marwolaeth ei dad ym 1637 fe etifeddodd orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cytunodd i Heddwch Westfalen ym 1648 gan ddod â therfyn i'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei ail fab Leopold I.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Ferdinand III (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2020.