Ferencvárosi T.C.

clwb pêl-droed Hwngari

Clwb pêl-droed proffesiynol yw Ferencvárosi Torna Club, a adwaenir fel arfer fel Ferencváros (Hwngareg: [ˈfɛrːnt͡svaːroʃ]), sydd wedi'i leoli yn ardal Ferencváros, Budapest, prifddinas Hwngari, sy'n cystadlu yn y Nemzeti Bajnokság I, Uwch Gynghrair Hwngari. Gelwir y clwb yn Fradi gan ei chyefnogwyr.

Ferencváros
Enw llawnClwb Ferencvárosi Torna
LlysenwauZöld Sasok (Eryrod Gwyrdd)
Sefydlwyd3 Mai 1899; 124 o flynyddoedd yn ôl (1899-05-03)
MaesGroupama Aréna, Budapest
(sy'n dal: 22,000)
CadeiryddGábor Kubatov
Prif HyfforddwrSerhiy Rebrov
CynghrairNemzeti Bajnokság I
2022/23NB I, 1af (pencampwyr)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae Ferencváros yn adnabyddus yn rhyngwladol am ennill Cwpan Rhyng-Ddinasoedd y Ffeiriau (Fairs Inter-City Cup) pan gynhaliwyd gyntaf yn 1964-65 [1] pan drechon nhw dîm enwog Eidalaidd, Juventus 1–0 yn ninas Turin. Cyrhaeddon nhw'r ffeinal eto yn 1968, ond golli yn erbyn Leeds United A.F.C.. Yn nhymor 1974-75 bu iddynt gyrraedd rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ond colli i Dinamo Kyiv.[2]

Ferencváros yw tîm pêl-droed mwyaf adnabyddus, llwyddiannus a phoblogaidd Hwngari.[3] Ond yn ogystal â'r tîm pêl-droed dynion mae Ferencvárosi TC yn glwb aml-gamp gan gynnwys: pêl-droed merched, pêl-law merched, futsal dynion, hoci iâ dynion, pêl-law dynion, timau polo-dŵr, beicio, gymnasteg, athletau, reslo, cyrlio a nofio, rhai ohonynt yn llwyddiannus iawn.

Cit golygu

Lliwiau'r clwb yw gwyrdd a gwyn. Arwyddlun y clwb yn eryr gwyrdd, ac felly un arall o lysenwau'r clwb, Yr Eryrod Gwyrdd.

Hanes golygu

Sefydlwyd Ferencváros yn 1899 gan Ferenc Springer a grŵp o drigolion lleol yn IXfed ardal Budapest, Ferencváros [4] ("Franzstadt" yn Almaeneg, a anewyd ar ôl yr Ymerawdwr, Ffransis II (Franz II) o Ymerodraeth Lân Rufeinig nes iddo ddiddymu'r Ymerodraeth hwnna a datgan ei hun yn Ffransis I o Ymerodraeth Awstria. Mae Ferencváros wedi chwarae yn Nemzeti Bajnokság I ers ei sefydlu yn 1901, ac eithrio tri thymor rhwng 2006 a 2009.

Ferencváros yw'r tîm Hwngari mwyaf llwyddiannus yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Fe enillon nhw Gwpan Ffeiriau Rhyng-Ddinasoedd 1964-65, ac maent wedi ennill 30 o weithiau Nemzeti Bajnokság I a'r Magyar Kupa 23 gwaith.

Ers 2011, mae'r clwb wedi gweithredu dan gyfarwyddyd Gábor Kubatov a Pál Orosz Jr, sydd wedi dod â sefydlogrwydd ariannol a gweithredol i'r clwb. Ers 2014, mae'r clwb wedi ennill y Nejzeti Bajnokság unwaith a'r Magyar Kupa deirgwaith. Ar lefel ryngwladol, cawsant eu dileu yn ail rownd gymhwyso tymor Cynghrair Pencampwyr UEFA 2016-17.

Enwau'r Clwb golygu

Er y defnyddir yr enw "Ferencváros Budapest", yn aml gan sylwebwyr tramor, nid yw'r enw yma byth yn cael ei harddel gan yr Hwngariaid. Yn gyffredin, ceir y talfyriad, FTC, yn amlach na pheidio, fe'i defnyddir fel Ruát 'Fradi' (yn aml iawn yn y ffurf bychanig "Fradika"). Mae yna hefyd yr enw Zöld-Fehérek ("gwyrdd-gwyn"). Gelwir pêl-droedwyr yr FTC hefyd yn Zöld sasok ("Eryryrod gwyrdd"). Newidiwyd yr enw i un i adlewywchu dyhead a byd-olwg Gomiwnyddol am gyfnod byr yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd pan ddaeth Hwngari yn wladwriaeth Gomiwynyddol o dan ddylanwad Stalin a'r Undeb Sofietaidd.

Yn ystod ei hanes mae'r clwb wedi gweld sawl newid i'w henw:

  • 1899–1926 Ferencváros Ferencvárosi Torna Club
  • 1926–1944 Ferencváros Ferencváros Football Club (fel clwb pêl-droed ar wahân, a gan ddefnyddio'r term Saesneg, football')
  • 1944–1949 Ferencváros Ferencvárosi Torna Club (ar ôl ailintegreiddio'r clwb pêl-droed i'r clwb campau llawn)
  • 1949–1950 ÉDOSZ Élelmezésipari Dolgozók Szakszervezetének Sport Egyesülete ("Cymdeithas Chwaraeon Gweithwyr/Cynhyrchwyr Bwyd")
  • 1950–1956 Bp. Kinizsi Budapesti Kinizsi Sport Egyesület ("Cymdeithas Chwaraeon Kinizsi yn Budapest")
  • ab 1956 Ferencváros Ferencvárosi Torna Club

Mae prif gemau 'darbi' y clwb yn erbyn Újpest Budapest.

Stadiwm y Clwb golygu

 
Darbi Ferencváros-Újpest derby yn yr hen Albert Stadion, 2013

Mae Fardi yn chwarae yn stadiwm newydd Groupama Aréna a leolir fyw neu lai ar hen safle eu maes blaenorol, Stadion Albert Flórián a newidiwyd i'r enw hwnnw yn 2007 o'r enw flaenorol, Üllői úti Stadion, mewn teyrnged i'r chwaraewr enwog, Albert Flórián (neu, Flórián Albert, o ddilyn yr afer Hwngareg o roi'r cyfenw gyntaf). Sadfai'r stadiwm yme ei hun ar sail maes lle adeilodd y clwb ei stadiwm gyntaf yn 1910. Mae'r Arena yn stadiwm aml-bwrpas ac yn cynnal gemau ryngwladol Hwngari ac yn cynnwys sawl nodwedd arall megis siop ac amgueddfa.

'Brawdoliaeth Gwyrdd' golygu

Mae lliw cit gwyrdd anghyffredin y clwb wedi arwain at greu brawdolaieth gyda ffans timau eraill sy'n chwarae mewn gwyrdd gyda'r llysenw, y '"Green Brothers"!. Mae'r rhain yn cynnwys ffans Rapid Wien[5] a Panathinaikos, o Wlad Groeg. Ceir hefyd perthynas gyfeillgar gyda chefnogwyr Śląsk Wrocław, o Wlad Pwyl sydd hefyd yn chwarae mewn gwyrdd. Cafwyd perthynas dda hefyd gyda chefnogwyr Bałtyk Gdynia yn y gorffennol. Mae'n werth nodi bod brawdoliaeth arbennig wedi bod erioed rhwng Gwlad Pwyl a Hwngari.[6]

Anrhydeddau golygu

Domestig golygu

  • Nemzeti Bajnokság I
    • Enillwyr (34): 12: 1903, 1905, 1906–07, 908–09, 1909–10, 1910–11, 1911–12, 1912–13, 1925–26, 1926–27, 1927–28, 1931–32, 1933–34, 1937–38, 1939–40, 1940–41, 1948–49, 1962–63, 1964, 1967, 1968, 1975–76, 1980–81, 1991–92, 1994–95, 1995–96, 2000–01, 2003–04, 2015–16, 2018–19, 20219/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23
  • Magyar Kupa
    • Winners (24): 13: 1912–13, 1921–22, 1926–27, 1927–28, 1932–33, 1934–35, 1941–42, 1942–43, 1943–44, 1955–58, 1971–72, 1973–74, 1975–76, 1977–78, 1990–91, 1992–93, 1993–94, 1994–95, 2002–03, 2003–04, 2014–15, 2015–16, 2016–17, 2021/22
  • Szuperkupa
    • Enillwyr (6): 1993, 1994, 1995, 2004, 2015, 2016
  • Ligakupa
    • Enillwyr (2): 2012–13, 2014–15

Ewrop golygu

  • Cwpan Rhyng-Ddinasoedd Ffeiriau ('Inter-Cities Fairs Cup')
  • Cwpan Enillwyr Cwpannau UEFA
    • Ail (1): 1974–75
  • Cwpan Mitropa
    • Enillwyr (2): 1928, 1937
    • Ail (4): 1935, 1938, 1939, 1940
  • Cwpan Her Ymerodraeth Awstria-Hwngari
    • Enillwyr (1): 1909
    • Ail (1): 1911
  • Tournoi de Nöel de Paris
    • Enillwyr (1): 1935[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Inter-Cities Fairs Cup 1964–65". The Rec Sport Soccer Statistics Foundation. 10 Mehefin 2014.
  2. "UEFA Cup Winners' Cup 1974–75: Dynamo Kyiv 3–0 Ferencváros". UEFA. 10 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2014. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  3. "Median's survey". Median. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  4. "Ferencváros". FIFA. 16 Tachwedd 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  5. "Rettet Ferencváros! Mentsük meg a Fradit!". nso.hu. Cyrchwyd 23 Chwefror 2011.
  6. http://www.bbc.com/travel/story/20170210-two-countries-as-close-as-brothers
  7. "International Tournaments (Paris) 1904-1935". www.rsssf.com.

Dolenni allanol golygu