Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. gwerddyr (pwbis)
  3. pidyn, cal(a)
  4. corpws cafernoswm
  5. blaen pidyn (glans)
  6. blaengroen
  7. agoriad wrethrol
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldaflol (neu ffrydiol)
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. argaill
  17. caill
  18. ceillgwd

Mae'r fesigl semenol yn un o bâr o chwarennau a geir yn yr isgeudod, sy'n gweithredu i gynhyrchu llawer o gynhwysion cyfansoddol semen. Maent yn darparu rhwng 60 a 70% o gyfanswm cyfaint y semen[1].

Fesigl semenol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathfesigl, organ component gland, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur

golygu

Mae'r chwarennau semenol yn ddau diwb 5 cm o hyd. Fe'u lleolir rhwng ffwndws y bledren a'r rectwm. Eu perthynas anatomegol bwysicaf yw gyda'r vas deferens, sy'n cyfuno â dwythell y fesigl semenol i ffurfio'r ddwythell alldaflol, sydd wedyn yn draenio i'r wrethra prostatig[2].

Yn fewnol mae gan y chwarren strwythur crwybrog, gyda llabedennau a mwcosa wedi'i linio gan epitheliwm. Mae'r celloedd hyn yn cael eu dylanwadu gan destosteron sydd yn gwneud iddynt dyfu'n dalach gyda lefelau uwch. Maent yn gyfrifol am gynhyrchu secretiadau semenol.

Swyddogaeth

golygu

Mae gan secretiadau'r chwarren semenol rôl allweddol yng ngweithrediad semen, gan greu hyd at 70% o'i gyfaint cyfan. Mae'r secretiadau yn cynnwys;

  • hylif alcalïaidd - sydd yn niwtraleiddio asidedd y wrethra gwrywaidd a'r fagina er mwyn hwyluso goroesiad sbermatosoa.
  • ffrwctos – math o siwgr sy'n ffynhonnell ynni ar gyfer y sbermatosoa.
  • prostaglandinau - sy'n rhwystro ymateb system imiwnedd corff y fenyw rhag ymosod ar y semen o gorff estron.
  • ffactorau ceulo - a gynlluniwyd i gadw semen yn llain atgenhedlu'r fenyw wedi i'r dyn alldaflu.

Mae gweddill y semen yn cynnwys sbermatosoa o'r ceilliau, secretiadau o'r brostad a mwcws o'r chwarennau bulbourethral.

Anhwylderau

golygu

Mae anhwylderau'r fesigl semenol yn cynnwys llid[3] codennau, crawniadau, anomaleddau cynhenid, cyst hydatid, cerrig calsiwm a thiwmorau.

Cyfeiriadau

golygu