Festival au désert
Gŵyl gerddorol flynyddol ym Mali yw'r Festival au désert (Ffrangeg am "Gŵyl yr Anialwch"). Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf, a ysbrydolwyd gan ymgynulliadau traddodiadol y Twareg, yn Ionawr 2001.[1][2] Mae'r ŵyl yn canolbwyntio'n bennaf ar gerddoriaeth y Twareg a phobloedd eraill Mali a'r Sahara, ond hefyd yn cynnal perfformwyr o bob rhan o'r byd.
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Lleoliad | Tombouctou, Essakane, Tessalit, Tin-Essako |
Gwefan | http://www.festival-au-desert.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2012 datganwyd y bydd gŵyl 2013 i'w chynnal yn Oursi, Bwrcina Ffaso, ym mis Chwefror o ganlyniad i waharddiad gan Islamyddion y MUJAO ar gerddoriaeth Orllewinol yng ngogledd Mali.[3] Cynhaliwyd yr ŵyl ddiweddaraf ym Merlin, yr Almaen, o 8 hyd 10 Ionawr 2014.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The festival. Festival au Désert. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Tutton, Mark (2 Chwefror 2012). Desert festival an oasis for sounds of the Sahara. CNN. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Pryor, Tom (23 Hydref 2012). Festival In The Desert Announces 2013 Plans. National Geographic. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Almaeneg) Im Exil: Festival au Désert kommt von Timbuktu nach Berlin. Operndorf Afrika. Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Dyddiadur Gŵyl 2010 gan Caroline Jones, gohebydd y BBC