Grŵp ethnig sy'n byw yn y Sahara yng Ngogledd Affrica yw'r Twareg, hefyd 'Tuareg neu Touareg, Amazigh: Imuhagh neu Itargiyen. Yn draddodiadol, maent yn bobl nomadaidd, yn byw trwy gadw anifeiliaid. Eu henwau arnynt eu hunanin yw Kel Tamasheq neu Kel Tamajaq ("Siaradwyr yr iaith Tamasheq"), Imuhagh, Imazaghan neu Imashaghen ("y bobl rydd"), neu Kel Tagelmust, "Pobl y gorchuddl".

Merch Twareg ym Mali (2007).
Twareg yn arddangosfa 1907
Yr ardaloedd lle mae mwyafrif y Twareg yn byw

Siaradant nifer o Ieithoedd Twareg, ieithoedd Affro-Asiaidd sy'n perthyn yn agos i'w gilydd, neu efallai un iaith gyda nifer o dafodithoedd. Yn draddodiadol, maent yn ddisgynyddion Tin Hinan, o'r arda; sy'n awr yn Tafilalt. Roedd gan y camel ran bwysig iawn yn eu bywydau, ac mae'n parhau felly i raddau. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw yn Niger, Mali, Algeria, Libia a Bwrcina Ffaso, gyda nifer bychan ym Moroco hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato