Cylchgrawn syml yw ffansîn, yn aml at ddiddordeb neilltuol a chyfyng iawn, gan amlaf ym maes diwylliant poblogaidd e.e. grwpiau pop, pêl-droed, gwleidyddiaeth a chelf.

Mae'r gair Cymraeg yn Gymreigiad o'r Saesneg 'fanzine' - 'fan' + zine (yr awgrym o magazine). Bathwyd y term Saesneg yn Hydref 1940 ar gyfer ffansîn ffuglen wyddonol gan Russ Chauvenet ac yna mabwysiadwyd yr enw a'r syniad gan gymunedau â diddordebau eraill, maes o law.

Caiff rhifynau o'r ffansîns eu hysgrifennu â llaw, gydag erthyglau wedi eu teipio â llaw â'u gludo ar y dudalen ac yna yn aml eu dyblygu yn hytrach na'u hargraffu.

Ffansîns Cymraeg golygu

Addaswyd natur amrwd, rhad a llac yr arddull gan y Sîn Roc Gymraeg ac felly hefyd safon ei hiaith.

Un o ladmeryddion cyntaf ffansîns yn y Gymraeg oedd Rhys Mwyn, cyn ganwr grwp pync Yr Anhrefn. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd rhifynau o Llygredd Moesol o'i gartref yn Llanfair Caereinion yng nghanol y 1980au.

Bu natur wleidyddol yn ogystal â cherddorol Llygredd Moesol, yn nodwedd o ffansîns Cymraeg erioed gyda nifer ohonynt yn rhan o gennad elfennau o'r mudiad cenedlaethol megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru. Roedd y ffaith mai yn yr 1980au a'r 1990au yr oedd y ffansîns ar eu hanterth yn rhannol gyfrifol eu bod hefyd yn cynnwys elfen 'gwrth-sefydliadol' ac felly yn erbyn y llywodraeth Geidwadol Brydeinig ar y pryd.

Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, blogiau, ebyst ac yna Facebook a Twitter, ystyriwyd fod argraffu a phostio ffansîn yn orchwyl rhy llafurus a drud a bu lleihâd yn eu nifer.

Archifir nifer o'r ffansîns yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cerddoriaeth[1] golygu

  • Llygredd Moesol (1980au, gol. Rhys Mwyn)
  • Pop Positif - ffansîn a gynhyrchwyd gan label recordiau Ankst yn 1990-91 yn Aberystwyth
  • Macher
  • Crud (1990au, gol. Neil Crud)
  • Egni (1990au, ffansin gan Johnny R o label R-bennig, yn cynnwys casetiau)
  • Letys (1990au, gol. Esyllt Williams)
  • Psycho (1990au, gol. Steffan Cravos)
  • Welsh Bands Weekly (1990au, gol. Suw Charman)
  • Brechdan Tywod (2000au, gol. Steffan Cravos) [2]
  • Fuck Off Facebook (2000au, gol. Steffan Cravos)
  • Viva Sparky (2000au)
  • Ffwdanu (2000au, gol. Lowri Johnston a Leusa Fflur )
  • Siarc Marw (2000au, gol. Mair Thomas a Geraint Criddle)

Cymdeithas yr Iaith golygu

  • Dom Deryn - ffansîn disgyblion ysgolion uwchradd Cymraeg Dwyrain Morgannwg, 1985-86
  • LlMCh - ffansîn Cell Clwyd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1980au canol. Addaswyd teitl y ffansîn gyda phob rhifyn gan newid trefn y llythrennau i greu gair anodd ei ynganu.

Plaid Cymru golygu

  • Ms Gwenith - ffansîn Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru Dwyrain Sir Gaerfyrddin. Cynhyrchwyd 1989-91. Roedd y teitl yn gyfeiriad at Gwenith Owen, enw bedydd Eddie Ladd, yr actores a chyflwynydd cyfres bop ac eiconig s4C, Fideo 9.

Pêl-droed golygu

  • Dwy Droed Chwith - ffansîn am bêl-droed Cymraeg gan fwyaf. Golygwyd gan Dilwyn Roberts-Young o Aberystwyth a Dylan Llywelyn o Bwllheli.

Amrywiol golygu

  • Seren Tan Gwmwl - ffansîn hanes a gynhyrchwyd gan Cymdeithas Iolo Morganwg - cymdeithas hanes myfyrwyr Aberystwyth 1988-1990. (daeth yr enw o bamffled Seren Tan Gwmmwl).
  • Ffwff - (2010au, ffansin gwrth-awdurdodol i’r genod. gol. Mererid Haf)

Cyfeiriadau golygu