Norn
Iaith a siaredid yn Shetland ac Ynysoedd Erch tan y cyfnod modern yw'r Norn. Mae hi'n perthyn yn agos i'r Norwyeg a Ffaröeg. Erbyn heddiw tafodiaith Albanaidd yw'r Shetlandeg a siaredir ar yr ynysoedd (er bod dylanwad y Norn yn gryf arni).
Math | iaith farw, extinct language, iaith naturiol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyflwynwyd yr iaith yn y 9g ar draul yr iaith Picteg. Bu farw siaradwr olaf yr iaith tua 1850. [1] Yn 1894 ymwelodd Jacob Jacobsen ieithydd o Ynysoedd Ffaroe ag ynysoedd Shetland ac Erch, ond enwedig Shetland, er mwyn cofnodi'r iaith Norn fyddai'n debyg i'w Ffaroeg ef. Cofnododd oddeutu 10,000 o eiriau gan hen drigolion yr ynysoedd. Yn 1928 cyhoeddodd ei ymchwil yn y llyfr yn Daneg,Etymologisk ordbog over det norrøne sprog på Shetland (a gyfieithwyd yn ddiweddarach i'r Saesneg). Yn 1929 cofnododd Albanwr, Hugh Marwick, oddeutu 3,000 o eiriau o dafodiaeth Ynysoedd Erth o'r iaith.
Nynorn
golyguMae mudiad i adfywio'r iaith gan ei alw'n Nynorn. Ceir trafodaeth ar seineg ac orgraff yr iaith a faint dylid echdynnu o'r dylanwad yr iaith Sgoteg a dreiddiodd i'r iaith dros genedlaethau.[2]
Enghraifft
golyguDyma Weddi'r Arglwydd yn Norn.
- Fy vor or er i Chimeri.
- Halaght vara nam dit.
- La Konungdum din cumma.
- La vill din vera guerde
- i vrildin sin da er i chimeri.
- Gav vus dagh u dagloght brau.
- Forgive sindorwara sin vi forgiva gem ao sinda gainst wus.
- Lia wus ikè o vera tempa, but delivra wus fro adlu idlu.
- For do i ir Kongungdum, u puri, u glori, Amen