Gwyddorau fferyllol
(Ailgyfeiriad o Fferyllol)
Grŵp o feysydd rhyngddisgyblaethol yw'r gwyddorau fferyllol sydd yn ymwneud â dyluniad, gweithrediad, gweiniad, natur, a defnydd cyffuriau. Mae'r maes yn tynnu ar nifer o ddisgyblaethau'r gwyddorau sylfaenol a chymhwysol, megis cemeg (organig, anorganig, ffisegol, biocemegol, a dadansoddol), bioleg (anatomeg a ffisioleg, biocemeg, bioleg cell, a bioleg foleciwlaidd), epidemioleg, ystadegaeth, cemometreg, mathemateg, ffiseg, a pheirianneg gemegol, ac yn cymhwyso eu hegwyddorion at astudiaeth cyffuriau.
Isrennir y gwyddorau fferyllol yn nifer o arbenigeddau penodol, â phedair brif gangen:
- Ffarmacoleg: astudiaeth yr effeithiau biocemegol a ffisiolegol sydd gan gyffuriau ar fodau dynol.
- Ffarmacoddynameg: astudiaethau y rhyngweithiadau cellog a moleciwlaidd rhwng cyffuriau a'u derbynyddion.
- Ffarmacocineteg: astudiaeth y ffactorau sy'n rheoli crynodiad y cyffur mewn rhannau'r corff.
- Tocsicoleg fferyllol: astudiaeth yr effeithiau niweidiol neu wenwynig sydd gan gyffuriau.
- Ffarmacogenomeg: astudiaeth yr etifeddiaeth sydd gan batrymau nodweddiadol o ryngweithiadau rhwng cyffuriau ac organebau.
- Cemeg fferyllol: astudiaeth dylunio cyffuriau er mwyn optimeiddio ffarmacocineteg a ffarmacoddynameg, a synthesis moleciwlau cyffur newydd.
- Fferylleg: astudiaeth a dyluniad fformwleiddio cyffuriau er gweiniad, sefydlogrwydd, ffarmacocineteg, a chydymffurfiad gan y claf i'r gorau posibl.
- Ffarmaconoseg: astudiaeth y priodweddau ffisegol, cemegol, biocemegol, a biolegol sydd gan gyffuriau, cyffuriau potensial, neu gyffuriau o ffynhonnell naturiol yn ogystal â chwilio am gyffuriau newydd o ffynonellau naturiol.
Mae fferylliaeth yn ymwneud â gwaith y fferyllydd, sef defnyddio meddyginiaeth yn ddiogel ac effeithiol.